With funding from NHS Charities Together, the Arts for Health and Wellbeing Team at Cardiff & Vale Health Charity are delighted to commission a new wall vinyl with Grosvenor Interiors.

Throughout the COVID-19 pandemic, Health Board Staff were often referred to as superheroes for their incredible strength, dedication and resilience through the challenging time. The wall vinyl reflects the superhero theme our staff from a range of Health Board roles continue to reflect.

‘Thank you to Grosvenor for interpreting the brief and delivering a project to help us to thank our staff for their contribution and on-going support of our patients and one another.’

-Simone Joslyn. Head of Art and Cardiff & Vale Health Charity

‘It’s great seeing this colourful and positive image outside one of the clinics at Cardiff Royal Infirmary. It certainly adds a welcoming and inclusive feel for all patients and staff – and the staff certainly are superheroes!’

-Lynne Topham. Locality Manager, South and East Cardiff

The wall vinyl is installed in the CAVHIS/Links Corridor at Cardiff Royal Infirmary.

This installation is one of many new artworks installed at Cardiff Royal Infirmary in the past 12 months. More information about these pieces and the wider Arts Council of Wales funded project, Cardiff Royal Infirmary: People Place Future, can be found by clicking this link:

http://www.cardiffandvale.art/cri-news

Gyda chyllid gan NHS Charities Together, mae Tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch iawn o gomisiynu darlun finyl newydd ar y wal gyda Grosvenor Interiors.

Drwy gydol pandemig COVID-19, cyfeiriwyd yn aml at staff y Bwrdd Iechyd fel archarwyr am eu cryfder, eu hymroddiad a’u gwydnwch anhygoel drwy’r cyfnod heriol. Mae thema’r finyl ar y wal yn adlewyrchu ein staff o amrywiaeth o rolau yn y Bwrdd Iechyd sy’n parhau i fod yn archarwyr.

Diolch i Grosvenor am ddehongli’r briff a chyflwyno prosiect i’n helpu i ddiolch i’n haelodau staff am eu cyfraniad a’u cefnogaeth barhaus i’n cleifion ac i’w gilydd.’

-Simone Joslyn. Pennaeth Celf ac Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro

‘Mae’n wych gweld y ddelwedd liwgar a chadarnhaol hon y tu allan i un o’r clinigau yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd. Mae’n creu ymdeimlad croesawgar a chynhwysol i’r holl gleifion a staff – ac mae’r staff yn sicr yn archarwyr!’

-Lynne Topham. Rheolwr Ardal, De a Dwyrain Caerdydd

Mae’r finyl ar y wal yng nghoridor CAVHIS/Links yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd.

Mae’r gwaith hwn yn un o nifer o weithiau celf newydd a osodwyd yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd yn ystod y 12 mis diwethaf. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y darnau hyn a’r prosiect ehangach a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Ysbyty Brenhinol Caerdydd: Pobl, Lle, Dyfodol, drwy glicio ar y ddolen hon:

http://www.cardiffandvale.art/cri-news

Leave a Reply