The Arts for Health and Wellbeing Team at Cardiff& Vale Health Charity are excited to launch a new project, Dancing the Self in collaboration with Cardiff Women’s Aid and dance artist, Zosia Jo, as part of Cardiff Royal Infirmary: People, Place, Future.

In celebration of International Women’s Day, we will be hosting a Women’s Wellbeing Fair as an opportunity for women and people of underrepresented gender to learn more about the project from Zosia Jo and to connect with members of Cardiff Women’s Aid that week. The fair will be held on Friday 11th March between 12pm-4pm at Cardiff Royal Infirmary’s Capel y Bawb and anyone interested in the project is warmly invited to pop in and hear more about it.



The focus of our project is reclaiming the body and empowering the mover to make choices about the ways they inhabit the body and space. This project will be co-created with participants. The focus is on having fun with movement, music and creativity and connecting to our bodies in positive ways. As a practice it is both personally transformative and has enormous performative potential, for example:
– to feel safe in our bodies
– to explore creativity
– to be in community
– to explore radical rest
– to come back to 3D living



We aim for Dancing the Self to connect with and support more women in our communities surrounding Cardiff Royal Infirmary and we are delighted to bring the expertise of Cardiff Women’s Aid, Zosia Jo and Natalie Corne.
‘’For women who have been subjected to abuse, reconnecting to our bodies (or even connecting to them in the first place) can be incredibly difficult. Dissociation can be a powerful survival technique. Reconnecting to ourselves: to movement, sensation, what feels good, what being free feels like – these are potentially transformative experiences which allow survivors of abuse to rediscover their power and their voice. Not only that, but the impacts of the pandemic, lockdowns, and enforced disconnection from our communities and networks have had hugely negative impacts on those living with and recovering from abuse. We’re very excited to be working in this partnership which brings women together to heal in community, to find freedom and connection, whatever their experience or background. ‘’
-Venice Fielding, Women’s Centre and Engagement Manager
Zosia Jo is a dance artist and trainee psychotherapist. She studied at Northern School of Contemporary Dance (BA), Independent Dance / Trinity Laban (MA Creative Practice), Spectrum Therapy and currently Welsh Psychotherapy Institute. Her work is rooted in somatic and improvised dance and also encompasses writing, drawing, video and installation. Zosia makes choreographic and participatory interventions that promote
embodiment, enjoyable movement and body positivity for all, with an intersectional eco-feminist agenda. Housing her group projects and community work, Zosia’s company, Joon Dance, was born out of a partnership with Torch Theatre and is active in the Pembrokeshire community. In addition to her creative work, Zosia lectures at University Wales Trinity Saint David on their BA Dance, BA Acting and BA Applied Drama programs and co-directs South Wales based collective for independent dance artists- Groundwork.
We are delighted that Zosia will be joined by Natalie Corne to deliver a series of taster sessions and courses as part of Dancing the Self.
Please come along to the Women’s Wellbeing Fair on Friday 11th March (during International Women’s Week) for an informal chat and to learn more about the project. Alternatively, please contact: shout@cardiffwomensaid.org.uk
For more information on the Arts for Health and Wellbeing Programme and Cardiff Royal Infirmary, People, Place Future, please contact: melanie.wotton@wales.nhs.uk
Mae Tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch o lansio prosiect newydd, Dancing the Self mewn cydweithrediad â Cymorth i Fenywod Caerdydd a’r artist dawns, Zosia Jo, fel rhan o Ysbyty Brenhinol Caerdydd: Pobl, Lle, Dyfodol.

I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, byddwn yn cynnal Ffair Lles Menywod fel cyfle i fenywod a phobl o rywiau a dangynrychiolir ddysgu mwy am y prosiect gan Zosia Jo ac i gysylltu ag aelodau Cymorth i Fenywod Caerdydd yn ystod yr wythnos honno. Cynhelir y ffair ddydd Gwener 11 Mawrth rhwng 12pm-4pm yng Nghapel i Bawb Ysbyty Brenhinol Caerdydd a gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb yn y prosiect i alw heibio i glywed mwy amdano.



Ffocws ein prosiect yw adennill y corff a grymuso’r symudwr i wneud dewisiadau am y ffyrdd y maent yn defnyddio’r corff a’r gwagle. Bydd y prosiect hwn yn cael ei greu ar y cyd â chyfranogwyr. Mae’r ffocws ar gael hwyl gyda symud, cerddoriaeth a chreadigrwydd a chysylltu â’n cyrff mewn ffyrdd cadarnhaol. Fel ymarfer, mae’n drawsnewidiol ar lefel bersonol ac mae ganddo botensial perfformiadol enfawr, er enghraifft:
– i deimlo’n ddiogel yn ein cyrff
– i archwilio creadigrwydd
– i fod yn y gymuned
– i archwilio gorffwys radical
– i ddod yn ôl i fyw’n 3D



Ein nod yw bod Dancing the Self yn cysylltu â, ac yn cefnogi mwy o fenywod yn ein cymunedau sydd yng nghyffiniau Ysbyty Brenhinol Caerdydd ac rydym yn falch iawn o ddod ag arbenigedd Cymorth i Fenywod Caerdydd, Zosia Jo a Natalie Corne.
“I fenywod sydd wedi wynebu camdriniaeth, gall ailgysylltu â’n cyrff (neu hyd yn oed gysylltu â nhw yn y lle cyntaf) fod yn hynod o anodd. Gall datgysylltu fod yn dechneg oroesi bwerus. Ailgysylltu â ni ein hunain: â symud, teimlad, beth sy’n teimlo’n dda, sut mae bod yn rhydd yn teimlo — mae’r rhain o bosibl yn brofiadau trawsnewidiol sy’n caniatáu i oroeswyr camdriniaeth ailddarganfod eu pŵer a’u llais. Nid yn unig hynny, ond mae effeithiau’r pandemig, y cyfyngiadau symud a’r datgysylltu gorfodol oddi wrth ein cymunedau a’n rhwydweithiau wedi cael effeithiau negyddol iawn ar y rhai sy’n byw gyda chamdriniaeth ac yn gwella ar ôl camdriniaeth. Rydym yn gyffrous iawn i fod yn gweithio yn y bartneriaeth hon sy’n dod â menywod at ei gilydd i wella yn y gymuned, i ddod o hyd i ryddid a chysylltiad, beth bynnag fo’u profiad neu gefndir.”
-Venice Fielding, Rheolwr Ymgysylltu Canolfan y Menywod
Artist dawns a seicotherapydd dan hyfforddiant yw Zosia Jo. Astudiodd yn y Northern School of Contemporary Dance (BA), Independent Dance / Trinity Laban (MA Ymarfer Creadigol), Spectrum Therapy ac mae hi’n astudio ar hyn o bryd yn The Welsh Psychotherapy Institute. Mae ei gwaith wedi’i wreiddio mewn dawns gorfforol a byrfyfyr ac mae hefyd yn cwmpasu
ysgrifennu, darlunio, fideo a gosodwaith. Mae Zosia yn gwneud ymyriadau coreograffig a chyfranogol sy’n hyrwyddo ymgorfforiad, symudiad pleserus a phositifrwydd corfforol i bawb, gydag agenda eco-ffeministaidd groestoriadol. Yn gartref i’w phrosiectau grŵp a’i gwaith cymunedol, cafodd cwmni Zosia, Joon Dance, ei greu yn sgil partneriaeth gyda Theatr Torch ac mae’n weithgar yng nghymuned Sir Benfro. Yn ogystal â’i gwaith creadigol, mae Zosia yn darlithio ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar raglenni BA Dawns, BA Actio a BA Drama Gymhwysol ac yn cyd-gyfarwyddo grŵp o artistiaid dawns annibynnol yn ne Cymru – Groundwork.
Rydym wrth ein bodd y bydd Natalie Corne yn ymuno â Zosia i gyflwyno cyfres o sesiynau blasu a chyrsiau yn rhan o Dancing the Self.
Dewch draw i’r Ffair Lles Menywod ddydd Gwener 11 Mawrth (yn ystod Wythnos Ryngwladol y Menywod) am sgwrs anffurfiol ac i ddysgu mwy am y prosiect. Fel arall, cysylltwch â: shout@cardiffwomensaid.org.uk
I gael rhagor o wybodaeth am Raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a ‘Lles ac Ysbyty Brenhinol Caerdydd, Pobl, Lle Dyfodol’, cysylltwch â: melanie.wotton@wales.nhs.uk