As the 100th anniversary of the Chapel at Cardiff Royal Infirmary is marked, the Staff Lottery, part of Cardiff & Vale Health Charity has funded for CRI staff and supporters to receive a card of thanks for their contribution to the hospital and its community.

The card features a print of the painting Capel i Bawb:Chapel for All by Malcolm Murphy, which was commissioned by the Arts for Health and Wellbeing Programme and will go on display in the Chapel.

Charles Janczewski, Chair of Cardiff and Vale University Health Board, shared his thanks to recipients through his message within the card, which acknowledges the superb contributions staff and supporters have made over the years to provide such high-quality service to patients at Cardiff Royal Infirmary.

The card was gifted to Cardiff Royal Infirmary staff as well contributors to some of the engaging projects at CRI, including those supporting the Arts Council of Wales funded project, Cardiff Royal Infirmary: People, Place, Future. More about this project and the development of arts at CRI can be found by clicking this link: http://www.cardiffandvale.art/cardiff-royal-infirmary-people-place-future/

Wrth i’r Capel yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd nodi ei ganmlwyddiant, mae Loteri’r Staff, sy’n rhan o Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, wedi rhoi arian er mwyn i staff a chefnogwyr CRI dderbyn cerdyn o ddiolch am eu cyfraniad i’r ysbyty a’i gymuned.

Mae’r cerdyn yn cynnwys print o’r paentiad Capel i Bawb gan Malcolm Murphy, a gomisiynwyd gan Raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles ac a fydd yn cael ei arddangos yn y Capel.

Gwnaeth Charles Janczewski, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ddiolch i’r derbynwyr trwy ei neges yn y cerdyn, sy’n cydnabod cyfraniadau anhygoel staff a chefnogwyr dros y blynyddoedd i ddarparu gwasanaeth o ansawdd mor uchel i gleifion yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd.

Rhoddwyd y cerdyn i staff Ysbyty Brenhinol Caerdydd yn ogystal ag i gyfranwyr rhai o’r prosiectau diddorol yn CRI, gan gynnwys y rhai hynny sy’n cefnogi’r prosiect a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Ysbyty Brenhinol Caerdydd: Pobl, Lle, Dyfodol. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y prosiect hwn a datblygiad y celfyddydau yn CRI drwy glicio ar y ddolen hon: http://www.cardiffandvale.art/cardiff-royal-infirmary-people-place-future/

Leave a Reply