WHAT? A commission to create a series of sculptures for our new Outdoor Staff Haven spaces at five of our hospital sites:
WHY? This project will facilitate and create a dedicated outside space that focuses on wellbeing, reflection and recovery after Covid-19. The areas and space for rest and recovery will combine seating, biodiverse suitable landscaping and a thoughtful art installation to promote wellbeing .
HOW? We are looking for artists who are interested in the themes mentioned below and can produce a series of sculptures that will be individual to each hospital site but follow a similar recognisable theme that will link the spaces on each site. Work will be sensitive to the environment and purpose of the space.
WHERE?
- University Hospital of Wales
- University Hospital Llandough
- Barry Hospital
- St David’s Hospital
- Cardiff Royal Infirmary
WHEN? The deadline for receiving proposals is 28th February 2022.
THEMES: The sculptures will explore the roles of nature art in commemoration remembrance and death.
COMMISSION AWARD: £5000 for the series of five sculptures, including design and manufacture.
HOW TO APPLY: Applications will be made via a project proposal form, which can be downloaded by accessing the following link:
CONTACT: This opportunity is available to all, and we look forward to receiving proposals. If you wish to discuss this opportunity, please contact Alex Staples on alex.staples2@wales.nhs.uk
BETH? Comisiwn i greu cyfres o gerfluniau ar gyfer ein mannau newydd Hafan Staff Awyr Agored ar bump o’n safleoedd ysbyty:
PAM? Bydd y prosiect hwn yn hwyluso ac yn creu gofod awyr agored pwrpasol sy’n canolbwyntio ar les, myfyrio ac adferiad ar ôl COVID-19. Bydd yr ardaloedd a’r gofod ar gyfer gorffwys ac adfer yn cyfuno seddi, tirlunio addas bioamrywiol a gwaith celf meddylgar i hyrwyddo lles.
SUT? Rydym yn chwilio am artistiaid sydd â diddordeb yn y themâu a grybwyllir isod ac sy’n gallu cynhyrchu cyfres o gerfluniau a fydd yn unigol i bob safle ysbyty ond sy’n dilyn thema debyg y gellir ei hadnabod a fydd yn cysylltu’r mannau ar bob safle. Bydd y gwaith yn sensitif i amgylchedd a phwrpas y gofod.
BLE?
- Ysbyty Athrofaol Cymru
- Ysbyty Athrofaol Llandochau
- Ysbyty’r Barri
- Ysbyty Dewi Sant
- Ysbyty Brenhinol Caerdydd
PRYD? Y dyddiad cau ar gyfer derbyn cynigion yw 28 Chwefror 2022.
THEMÂU: Bydd y cerfluniau’n archwilio rolau celf natur o safbwynt coffáu a marwolaeth.
GWOBR Y COMISIWN: £5000 am y gyfres o bum cerflun, gan gynnwys dylunio a gweithgynhyrchu.
SUT I WNEUD CAIS: Gwneir y ceisiadau drwy ffurflen cynnig prosiect, y gellir ei lawrlwytho drwy fynd i’r ddolen ganlynol:
CYSYLLTWCH Â: Mae’r cyfle ar gael i bawb, ac edrychwn ymlaen at dderbyn cynigion. Os hoffech drafod y cyfle hwn, cysylltwch ag Alex Staples ar alex.staples2@wales.nhs.uk