The Arts for Health and Wellbeing team at Cardiff & Vale Health Charity are delighted to present Unlocked a spoken word performance by Duke Al as part of the Arts Council of Wales funded project, Cardiff Royal Infirmary: People, Place, Future.

Duke collaborated on the project with visual creative Trev Burgess, illustrator Dom Tsoi and music producer Tom James, together with performance artist Ruby Atlanta Boland and staff members at Cardiff Royal Infirmary.
‘The NHS have been lifesavers (literally) since the pandemic. Although they have come under a lot of stress, they have somehow been able to help get the nation through the pandemic so far. I have the utmost respect for the NHS and I thank them for their hard work and resilience. I wanted to show my respect for them with this poem and I was honoured to be asked to do this to show my support.‘
-Duke Al, Spoken Word Artist
It was a pleasure to collaborate with Duke and his team in creating this extraordinary video.
‘Unlocked’ – Perfformiad Llafar gan Duke Al
Mae’n bleser gan dîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro gyflwyno Unlocked, perfformiad llafar gan Duke Al yn rhan o brosiect a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Ysbyty Brenhinol Caerdydd: Pobl, Lle, Dyfodol.

Bu Duke yn cydweithio ar y prosiect gyda’r fideograffydd Trevor Burgess, y darlunydd Dom Tsoi a’r cynhyrchydd cerddoriaeth Tom James, ynghyd â’r artist perfformio Ruby Atlanta Boland ac aelodau o staff Ysbyty Brenhinol Caerdydd.
‘Mae gweithwyr y GIG wedi bod yn achubwyr bywyd (yn llythrennol) ers dechrau’r pandemig. Er eu bod wedi bod o dan bwysau eithriadol, maen nhw wedi llwyddo, rywsut, i helpu’r genedl i oroesi’r pandemig hyd yma. Mae gen i’r parch mwyaf tuag at y GIG ac rydw i’n ddiolchgar iddynt am eu gwaith caled a’u gwydnwch. Roeddwn i eisiau dangos fy mharch tuag atynt gyda’r gerdd hon a phleser o’r mwyaf oedd cael fy ngofyn i wneud hyn er mwyn dangos fy nghefnogaeth.‘
-Duke Al, Spoken Word Artist
Rydym yn hynod gyffrous ac yn ddiolchgar i fod yn cydweithio â Duke a’i dîm i greu’r fideo rhyfeddol hwn.