
On Thursday 2nd December, Jenny Brockmann (artist) and Linda Rocco (curator), ran the “Entanglement 1: The Colour of Sound” performative event at the Hearth Gallery. They invited four participants to join them on the “Seat #12” sculpture to discuss the properties of the liver from a literal and metaphorical point of view, considering processes of regeneration and metabolism in relation to the analogue world and digital technologies, as the liver is a metaphor for connections, clearing and building relationships.
Jenny and Linda were joined by Katherine (violinist) and William (guitarist) from Harmoni Cymru; Alan Watson, a biomedical scientist from Cardiff University whose current research focuses on various aspects of musical performance physiology and ergonomics; and Melanie Wotton, the Arts in Health Project Manager and Curator for the Cardiff and Vale Arts for Health and Wellbeing Team.





Jenny started the discussion by talking about the liver’s regenerative and metabolic functions, and its significance in Greek mythology and Traditional Chinese Medicine which both reference the liver as an organ that holds power over a person’s emotional state. The discussion then moved onto the impact that colour and sound have on thoughts and emotions, where each participant’s input was crucial to balance the conversation, and in turn to balance the “Seat #12” sculpture. The artist and curator discussed the topic from a visual perspective, the musicians played examples of emotive sounds, the biomedical scientist was able to provide the physiological contexts, and the Arts for Health and Wellbeing representative was able to explain the significance of art and music to recovery and wellbeing.
The music was especially impactful on the participants and audience, and had clearly demonstrated the power it can hold over human emotions. Combined with the discursive artwork and insightful conversation, the event proved to be a valuable experience to everyone involved.
We’d like to thank all of the wonderful participants who shared their thoughts and knowledge, as well as all the attendees for being part of this incredible happening.
This is the first of two events relating to the “#ENERGY/STATE/REACTION” exhibition, and if you would like to attend “Entanglement 2: ‘Metabolic Objects” on the 17th of January 2022, please email magda.lackowska@wales.nhs.uk as numbers are limited due to COVID-19.






Cydberthyniad 1: “Lliw Sain” (Digwyddiad cyntaf yr arddangosfa “#EGNI/CYFLWR/YMATEB”)

Ddydd Iau 2 Rhagfyr, gwnaeth Jenny Brockmann (artist) a Linda Rocco (curadur), gynnal “Cydberthyniad 1: Lliw Sain”, digwyddiad perfformiadol yn Oriel yr Aelwyd. Gwahoddwyd pedwar cyfranogwr i ymuno â hwy ar y cerflun “#12 Sedd” i drafod nodweddion yr afu o safbwynt llythrennol a throsiadol, ystyried prosesau adfywio a metabolaeth mewn perthynas â’r byd analog a thechnolegau digidol, gan fod yr afu yn drosiad ar gyfer cysylltiadau, clirio a meithrin cydberthnasau.
Yn gwmni i Jenny a Linda roedd Katherine (feiolynydd) a William (gitarydd) o Harmoni Cymru; Alan Watson, gwyddonydd biofeddygol o Brifysgol Caerdydd y mae ei ymchwil gyfredol yn canolbwyntio ar wahanol agweddau ar ffisioleg ac ergonomeg perfformiad cerddorol; a Melanie Wotton, Rheolwr Prosiect y Celfyddydau mewn Iechyd a Churadur Tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles Caerdydd a’r Fro.





Dechreuodd Jenny y drafodaeth drwy sôn am swyddogaethau adfywio a metabolig yr afu, a’i arwyddocâd mewn mytholeg Roegaidd a Meddyginiaeth Tsieineaidd Draddodiadol sy’n cyfeirio at yr iau fel organ sydd â phŵer dros gyflwr emosiynol person. Yna symudodd y drafodaeth i’r effaith y mae lliw a sain yn ei chael ar feddyliau ac emosiynau, lle roedd mewnbwn pob cyfranogwr yn hanfodol i gydbwyso’r sgwrs, ac yn ei dro i gydbwyso’r cerflun “#12 Sedd”. Trafododd yr artist a’r curadur y pwnc o safbwynt gweledol, chwaraeodd y cerddorion enghreifftiau o synau emosiynol, roedd y gwyddonydd biofeddygol yn gallu darparu’r cyd-destunau ffisiolegol, ac roedd cynrychiolydd y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn gallu esbonio arwyddocâd celf a cherddoriaeth i adferiad a lles.
Cafodd y gerddoriaeth effaith arbennig ar y cyfranogwyr a’r gynulleidfa, a dangosodd yn glir y pŵer sydd ganddi dros emosiynau dynol. Ynghyd â’r gwaith celf cwmpasog a’r sgwrs graff, bu’r digwyddiad yn brofiad gwerthfawr i bawb dan sylw.
Hoffem ddiolch i’r holl gyfranogwyr gwych a rannodd eu meddyliau a’u gwybodaeth, yn ogystal â’r holl fynychwyr am fod yn rhan o’r digwyddiad anhygoel hwn.
Dyma’r cyntaf o ddau ddigwyddiad sy’n ymwneud â’r arddangosfa “#EGNI/CYFLWR/YMATEB”, ac os hoffech fynychu “Cydberthyniad 2: ‘Gwrthrychau Metabolig’ ar 17 Ionawr 2022, anfonwch e-bost at magda.lackowska@wales.nhs.uk gan fod y niferoedd yn gyfyngedig oherwydd COVID-19.





