The Arts for Health and Wellbeing team, with the support of NHS Charities Together through Cardiff & Vale Health Charity, the official NHS charity of Cardiff and Vale University Health Board, have commissioned artist Kyle Legall to produce a piece of art that celebrates diversity and inclusion within Cardiff and Vale of Glamorgan and across Wales.
Kyle Legall is an artist from Butetown, Cardiff. A place known for its multicultural roots. Kyle is known for his animation and street art.
The mural was commissioned as a result of Cardiff and Vale University Health Board inviting applications from artists and creative collaborators to work on projects that provide messages of support, respect and to reaffirm their commitment to continue to work with their patients, staff and colleagues and provide support as part of their collective commitment to equality, diversity and inclusion for all, not just while the Black Lives Matter movement is so prominent in the media, but every day.

Kyle said: “The artwork aims to empower the roles that health services are playing during these strange and challenging times. Using life sized paintings of people and their shadows will express the hero qualities as exaggerated characters.”
The challenge is always to ensure that black and minority ethnic people/ staff have a voice and presence across the NHS, so that within all of the areas of health, the sound of their voices can be heard, know of their experiences, heritage, history and contributions, both past and present.
The aim is for the NHS in Wales to ultimately reflect a common experience of a vibrant, inclusive, multicultural society. There is a rich history in the NHS in Wales, built on difference and diversity that is internationalist in its outlook and progressive in its aspirations.

Simone Joslyn, Head of Arts and Health Charity at Cardiff and Vale University Health Board said: “I’m delighted that the Health Board has been able to give such an inspiring local artist this platform to showcase his talent, while at the same time reminding everyone of the rich and vibrant culture in this area and inspiring people to find out more about their heritage and connections. I’d like to thank Kyle for producing this artwork and NHS Charities Together for funding this project through Cardiff & Vale Health Charity Arts for Health and Wellbeing Programme.”
Mae tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles, gyda chefnogaeth NHS Charities Together drwy Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, elusen GIG swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, wedi comisiynu’r artist Kyle Legall i gynhyrchu darn o waith celf sy’n dathlu amrywiaeth a chynhwysiant yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg a ledled Cymru.
Mae Kyle Legall yn artist o Butetown, Caerdydd. Lle sy’n adnabyddus am ei wreiddiau amlddiwylliannol. Mae Kyle yn adnabyddus am ei waith animeiddio a chelf stryd.
Comisiynwyd y murlun o ganlyniad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn gwahodd ceisiadau gan artistiaid a chydweithwyr creadigol i weithio ar brosiectau sy’n darparu negeseuon o gefnogaeth a pharch, ac i ailddatgan eu hymrwymiad i barhau i weithio gyda’u cleifion, staff a chydweithwyr a darparu cymorth fel rhan o’u hymrwymiad ar y cyd i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i bawb, nid dim ond tra bod y mudiad Mae Bywydau Du o Bwys mor amlwg yn y cyfryngau, ond bob dydd.

Dywed Kyle: “Nod y gwaith celf yw grymuso’r rolau y mae gwasanaethau iechyd yn eu chwarae yn ystod y cyfnod rhyfedd a heriol hwn. Bydd defnyddio paentiadau maint go iawn o bobl a’u cysgodion yn mynegi eu rhinweddau fel arwyr, fel cymeriadau chwyddedig.“
Yr her bob amser yw sicrhau bod gan staff/pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig lais a phresenoldeb ar draws y GIG, fel y gellir clywed eu lleisiau, gwybod am eu profiadau, treftadaeth, hanes a chyfraniadau, yn y gorffennol a’r presennol ym mhob rhan o’r maes iechyd.
Y nod yw i’r GIG yng Nghymru adlewyrchu profiad cyffredin o gymdeithas fywiog, gynhwysol, amlddiwylliannol yn y pen draw. Mae hanes cyfoethog yn y GIG yng Nghymru, wedi’i adeiladu ar wahaniaeth ac amrywiaeth sy’n rhyngwladol o ran ei agwedd ac yn flaengar o ran ei ddyheadau.

Dywedodd Simone Joslyn, Pennaeth Elusen y Celfyddydau ac Iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Rwyf wrth fy modd bod y Bwrdd Iechyd wedi gallu rhoi’r llwyfan hwn i artist lleol mor ysbrydoledig i arddangos ei dalent, gan atgoffa pawb ar yr un pryd o’r diwylliant cyfoethog a bywiog yn yr ardal hon ac ysbrydoli pobl i ddarganfod mwy am eu treftadaeth a’u cysylltiadau. Hoffwn ddiolch i Kyle am gynhyrchu’r gwaith celf hwn a NHS Charities Together am ariannu’r prosiect hwn trwy Raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles, Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro.”
