The Hearth Gallery is delighted to welcome a Berlin and New York based artist, Jenny Brockmann, to exhibit the discursive performative installation: #ENERGY/STATE/REACTION curated by Linda Rocco and in collaboration with the Goethe-Institut London. The Hearth Gallery at University Hospital Llandough will be one of 6 UK venues to exhibit the work, and to support this unique collaboration and exchange between clinicians, academics, scientists, artists, and members of our hospital community.

#ENERGY/STATE/REACTION is the second iteration of Jenny Brockmann’s International Bypass project. Unfolding via two curated events, or Entanglements, at the Hearth Gallery, #ENERGY/STATE/REACTION will look into the properties of the liver from a literal and metaphorical point of view, considering processes of regeneration and metabolism in relation to the analogue world and digital technologies, as the liver is a metaphor for connections, clearing and building relationships.

Critical to each Entanglement is the sculptural installation Seat#12.  Mounted on a single central axis, Seat#12 is a kinetic sculpture consisting of a wooden base and 12 aluminium branches, at the end of which are 12 seats where participants are invited to sit facing each other as they work together to balance the sculpture.

The kinetic sculpture responds to people’s subtle movements and provides a platform for conversations.

We invite you to sit and talk.

www.jennybrockmann.de

https://www.instagram.com/studiojennybrockmann/

This exhibition is invigilated and open on:

01/12/21- 16/12/21, Monday – Thursday, 11am – 3pm

04/01/22 – 18/01/22, Monday – Thursday, 11am – 3pm

Gallery Events:

Entanglement 1: ‘The Colour of Sound’ Thursday 2nd December, 2-4pm

Entanglement 2: ‘Metabolic Objects’ Monday 17th January, 2-4pm

Please email magda.lackowska@wales.nhs.uk if you’re interested in attending either of the events, as numbers are restricted due to Covid-19.

Mae’n bleser gan Oriel yr Aelwyd groesawu’r artist o Berlin ac Efrog Newydd, Jenny Brockmann, mewn cydweithrediad â Linda Rocco, curadur yn y Goethe-Institut, Llundain, i arddangos y gosodiad perfformiadol eang: #EGNI/CYFLWR/YMATEB. Bydd Oriel yr Aelwyd yn Ysbyty Athrofaol Llandochau yn un o 6 lleoliad yn y DU i arddangos y gwaith, a chefnogi’r cydweithrediad a’r cyfnewidiad unigryw hwn rhwng clinigwyr, academyddion, gwyddonwyr, artistiaid ac aelodau o’n cymuned ysbyty.

#EGNI/CYFLWR/YMATEB yw’r ail ran o brosiect Dargyfeirio Rhyngwladol Jenny Brockmann. Mae’n archwilio nodweddion yr afu fel organ metabolaeth, yn cynnwys gweithredoedd megis chwalu a gwaredu cynnyrch gwastraff metabolig a thocsinau, defnyddio elfennau maethol a chynhyrchu bustl a phroteinau.

Wedi’i gyflwyno drwy gyfrwng dau ddigwyddiad wedi’u curadu, neu Gydberthyniadau, yn Oriel yr Aelwyd, bydd #EGNI/CYFLWR/YMATEB yn edrych ar nodweddion yr afu o safbwynt llythrennol a throsiadol, gan ystyried prosesau adnewyddu a metabolaeth mewn perthynas â’r byd analog a thechnolegau digidol.

Yn hanfodol i bob Cydberthyniad mae’r gosodiad cerfluniadol #12Sedd.  Wedi’i osod ar un echel ganolog, mae #12Sedd yn gerflun cinetig sy’n cynnwys sylfaen pren a 12 cangen alwminiwm, ac ar waelod y canghennau mae 12 sedd lle caiff cyfranogwyr eu gwahodd i eistedd yn wynebu ei gilydd wrth iddynt weithio gyda’i gilydd i gydbwyso’r cerflun.

Wedi’u harddangos ar y cyd â gwrthrychau a chartograffeg eang, mae trafodaethau lleoledig Brockmann  yn croesawu cleifion a staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, cynulleidfaoedd achlysurol, a siaradwyr gwâdd, gan ehangu’r broses artistig y tu hwnt i gyd-destunau sefydliadol.


Nod #12Sedd ywcreu lle i feddwl ac ar gyfer y synhwyrau, a fydd yn cynnwys cyfeiriadau at gasgliad meddygol Amgueddfa Cymru, sy’n cynnwys arteffactau sy’n ymwneud â hanes gwybodaeth a meddygaeth.

www.jennybrockmann.de

https://www.instagram.com/studiojennybrockmann/

Bydd yr arddangosfa hon o dan oruchwyliaeth a bydd ar agor rhwng:

29/11/21 – 16/12/21, Dydd Llun – Dydd Iau, 11am – 3pm

04/01/22 – 18/01/22, Dydd Llun – Dydd Iau, 11am – 3pm

Digwyddiadau’r Oriel:

Cydberthyniad 1: ‘Lliw Sain’ Dydd Iau 2 Rhagfyr, 2-4pm

Cydberthyniad 2: ‘Gwrthrychau Metabolaidd’ Dydd Llun 17 Ionawr, 2-4pm

Nodwch fod angen cydbwyso’r cerflun. Argymhellwn fod hwn yn addas i isafswm o 2 berson ar seddi gyferbyn â’i gilydd.

Leave a Reply