The 20th November marks Transgender Day of Remembrance, an annual memorial dedicated to the individuals who lost their lives due to transphobia. The day of memorial also aims to draw attention to the abuse and violence that is still experienced by many people who are transgender today.
Cardiff & Vale Health Charity and Cardiff and Vale University Health Boards Arts for Health and Wellbeing programme continues to support our transgender community, through our PRIDE and inclusion exhibitions and also the commissioning of art for the Welsh Gender Service. We are extremely proud of the strong relationship we have with the LGBTQ+ community in Cardiff and the Vale of Glamorgan.
We are currently working with Jaydan Alexander, a transgender artist on a piece celebrating PRIDE. Like us, Jaydan believes in giving a voice to those who are not given the chance to be seen often enough, in a world that can cost everything, highlighting that creativity as queer creators is something to be valued. We can’t wait to share this work with you when it is ready.

Cardiff & Vale Health Charity and Cardiff and Vale University Health Board strives to contribute towards the positive health and wellbeing of Transgender patients and staff every day and we remember those we have lost on Transgender Day of Remembrance.
If you’d like to make a donation to support the Arts programme within Cardiff & Vale Health Charity please visit: cardiffandvale.art
Mae 20 Tachwedd yn nodi Diwrnod Cofio Pobl Drawsryweddol, digwyddiad blynyddol i gofio am yr unigolion sydd wedi colli eu bywydau o ganlyniad i drawsffobia. Mae diwrnod y cofio hefyd yn anelu at dynnu sylw at y gamdriniaeth a’r trais y mae llawer o bobl drawsryweddol yn dal i’w dioddef heddiw.
Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn parhau i gefnogi ein cymuned drawsryweddol, drwy ein harddangosfeydd PRIDE ac arddangosfeydd cynhwysiant, a hefyd drwy gomisiynu gwaith celf ar gyfer Gwasanaeth Rhywedd Cymru. Rydym yn hynod falch o’r berthynas gref sydd gennym â’r gymuned LHDTC+ yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda Jaydan Alexander, artist trawsryweddol ar ddarn sy’n dathlu PRIDE. Fel ni, mae Jaydan yn credu mewn rhoi llais i’r rhai nad ydynt yn cael y cyfle i gael eu gweld yn ddigon aml, mewn byd sy’n gallu costio popeth, gan amlygu bod creadigrwydd fel dyfeiswyr cwiar yn rhywbeth y dylid rhoi gwerth arno. Ni allwn aros i rannu’r gwaith hwn gyda chi pan fydd yn barod.

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn anelu at gyfrannu tuag at iechyd a lles cadarnhaol cleifion a staff trawsryweddol bob dydd, ac rydym yn cofio’r rhai hynny rydym wedi’u colli ar Ddiwrnod Cofio Pobl Drawsryweddol.
Os hoffech wneud cyfraniad i gefnogi rhaglen y Celfyddydau yn Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, ewch i: cardiffandvale.art