This October, the Arts for Health and Wellbeing team welcome to the Plaza space, a display of artwork by artists, Clare Williams, Adele Pask, Alison Heard and donated artwork by Gareth Kingdon.
Working in vibrant and diverse styles of art media, these artists showcase a variety of ideas and stories which reflect personal experiences and acknowledges the importance of cultural diversity that we have within Cardiff and Vale University Health Board and our surrounding communities.
These artworks will be on display in our Plaza Exhibition Space at University Hospital Llandough from 28th September – 1st November 2021 for our patients, staff and visitors to enjoy.
Clare Williams
When travelling in West Africa in 2017 I spent a few weeks with an extended Sengalese family who lived in a collection of huts near Ziguinchor. The compound was a matriarchy managed by a vivacious and volatile woman called Khadi.
I was fascinated by Khadi’s nameless elder sister- a single mother who held the community of a vast extended family together. I sketched her whilst she quietly cooked, tended the goats, coaxed vegetables from the scrubland and bathed, fed and entertained a rabble of children.
The three paintings presented for Black History Month are a memory of that time in Senegal- a nation devastated by the Slave Trade. Half its population were shipped over the Atlantic to work in the Americas.
The largest in the triptych is Khadi’s sister. The smaller paintings are of her son who kept himself entertained chasing the chickens and her nephew, Gulliver.
September 2021
07890 428654
Adele Pask
Heartbeat
Acrylic on Canvas
This artwork is entitled ‘Heartbeat’, which is defined as something that acts as a unifying force. It has been painted in the same bold and graphic style as the earlier ‘Synergy’ mural produced in response to the Black Lives Matter movement as part of the Cardiff and Vale University Health Board inclusion agenda.
Both artworks focus on the positive values of individuality, connection and the unifying impact of interaction and collaboration.
In this painting, similarities have been drawn from our own beating heart, which is crucial in circulating blood and sustaining life. The requirement for respect, freedom, equal opportunity and the need for individuality to be recognised should also circulate from the heart of our society, for it to function effectively.
Alison Heard
Togo Ladies
Pastel
As an art student in the early 90’s I had the opportunity to visit Togo in West Africa, where my cousin was teaching art for a few years.
It’s a small country between Ghana and Benin and not a very touristy destination at all.
I immediately loved it.
I was struck by the gentle ease and open friendliness of the people and the unassuming way the country seemed to tick along without the commercialism and unnecessary diversions of Western life.
Whilst there I kept a visual diary and took lots of photos.
These ladies are from a photograph I took outside the market one day.
I absolutely loved their personalities, the one in front cheekily confrontational and the one behind smiling and laughing.
Lots of people ask why this is unfinished but I like it just the way it is and feel that I have captured the essence of their energy and they don’t need any unnecessary additions.
Like my cousin, I am now an art teacher and run my own courses within the community around Caldicot, Chepstow and Magor.
If you are interested in art and would like to have a go at learning to draw or paint please email me at alcancreate@hotmail.co.uk or check out my Facebook page The Art club Social.
Gareth Kingdon
This image was created by Gareth Kingdon (1982 – 2013), an international documentary photographer with a love for Africa. Gareth was a patient under the care of University Hospital Llandough’s All Wales Adult Cystic Fibrosis Centre, who supported his studies in Documentary Photography at Newport University, and helped him achieve his artistic and professional ambitions.
He spent time in the poorest regions of Uganda, Kenya and India, taking internationally acclaimed images of positive daily life there.
Gareth was part of the Mothers of Africa Charity team that visited Zambia in 2013, intending to document rural antenatal and postnatal clinics as the charity began work to help improve maternal mortality rates in the region. Sadly he became unwell on this trip and was airlifted from West Africa to Wales, succumbing to respiratory failure.
Gareth chose to make the most of the life he did have, and got on with doing what he could, where he could, an inspiration to so many.
His internationally, award winning images can be viewed at www.garethkingdonphotography.com
If you would like more information on Cardiff and Vale University Health Board’s Wales for Africa programme, please see
http://www.cardiffandvaleuhb.wales.nhs.uk/wales-for-africa
This photograph is donated by his widow, Clare Morgan, in gratitude for the magnificent care Cardiff and Vale UHB gave both her and Gareth.

Ym mis Hydref, bydd tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn croesawu arddangosfa o waith celf i ardal y Plaza gan yr artistiaid Clare Williams, Adele Pask, Alison Heard a gwaith celf a gyfrannwyd gan Gareth Kingdon.
Wrth weithio mewn arddulliau bywiog ac amrywiol o gyfryngau celf, mae’r artistiaid yn arddangos ystod o syniadau a straeon sy’n adlewyrchu profiadau personol ac yn cydnabod pwysigrwydd yr amrywiaeth ddiwylliannol sydd gennym ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a’n cymunedau cyfagos.
Bydd y gwaith celf yn cael ei arddangos yn Ardal Arddangos y Plaza yn Ysbyty Athrofaol Llandochau o 28 Medi – 1 Tachwedd 2021 i’n holl gleifion, staff ac ymwelwyr ei fwynhau.
Clare Williams
Wrth deithio yng Ngorllewin Affrica yn 2017, fe dreuliais rhai wythnosau gyda theulu estynedig Sengalese a oedd yn byw mewn casgliad o gytiau ger Ziguinchor. Roedd yr ardal yn fatriarchaeth, yn cael ei rheoli gan fenyw fywiog ac ansefydlog o’r enw Khadi.
Roedd gen i gryn ddiddordeb yn chwaer hŷn ddienw Khadi – mam sengl a oedd yn dal y gymuned o deulu estynedig helaeth at ei gilydd. Fe wnes i fraslun ohoni wrth iddi goginio, trin y geifr, coginio llysiau o’r tir prysg a golchi, bwydo a diddanu ciwed o blant.
Mae’r tri phaentiad a gyflwynir ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon yn atgof o’r cyfnod hwnnw yn Senegal – cenedl wedi’i dinistrio gan Fasnach Caethweision. Cafodd hanner y boblogaeth ei anfon mewn llong ar draws yr Iwerydd i weithio yn America.
Y mwyaf yn y triptych yw chwaer Khadi. Mae’r paentiadau llai yn cynnwys ei mab, a oedd yn diddanu ei hun yn rhedeg ar ôl y cywion, a’i nai Gulliver.
Medi 2021 http://www.clarewilliamsart.com
07890 428654
Adele Pask
Heartbeat
Acrylig ar Ganfas
Teitl y gwaith celf yw ‘Heartbeat’, sy’n cael ei ddiffinio fel rhywbeth sy’n gweithredu fel grym sy’n uno. Mae wedi’i baentio yn yr un arddull trawiadol a graffig â’r murlun blaenorol ‘Synergy’ a gynhyrchwyd mewn ymateb i fudiad Mae Bywydau Du o Bwys yn rhan o agenda cynhwysiant Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Mae’r ddau ddarn o waith celf yn canolbwyntio ar werthoedd cadarnhaol unigoliaeth, cysylltiad ac effaith unedig rhyngweithio a chydweithio.
Yn y paentiad hwn, mae tebygrwydd wedi’i dynnu o’n calonnau ein hunain sy’n curo, sy’n hanfodol i gylchredeg gwaed a chynnal bywyd. Dylai’r angen am barch, rhyddid, cyfle cyfartal a’r angen i unigoliaeth gael ei gydnabod hefyd gylchredeg o galon ein cymdeithas er mwyn iddo weithredu’n effeithiol.
Alison Heard
Togo Ladies
Pastel
Fel myfyriwr celf ar ddechrau’r 90au, fe ges i’r cyfle i ymweld â Togo yng Ngorllewin Affrica, ble fuodd fy nghefnder yn dysgu celf am rhai blynyddoedd.
Mae’n wlad fach rhwng Ghana a Benin ac nid yw’n lle twristaidd o gwbl.
Roeddwn i wrth fy modd â’r lle ar unwaith.
Fe ges i fy nharo gan ba mor agored a chyfeillgar oedd y bobl a’r ffordd ddiymhongar yr oedd y wlad i weld yn gweithredu heb fasnacheiddio a gwrthdyniadau diangen y byd Gorllewinol.
Yn ystod fy nghyfnod yno, fe wnes i gadw dyddiadur gweledol a thynnu llawer o luniau.
Mae’r menywod hyn yn seiliedig ar lun a dynnais y tu allan i’r farchnad un diwrnod.
Roeddwn i wrth fy modd â’u personoliaethau, yr un yn y blaen yn bryfoclyd o gyfwynebol a’r un yn y cefn yn gwenu a chwerthin.
Mae llawer o bobl yn gofyn pam ei fod yn anorffenedig ond rydw i’n hoff ohono fel y mae ac yn teimlo fy mod i wedi dal hanfod eu hegni a does dim angen unrhyw ychwanegiadau dibwrpas arnynt.
Fel fy nghefnder, rydw i bellach yn athro celf ac yn cynnal fy nghyrsiau fy hun o fewn y gymuned yn ardaloedd Cil-y-coed, Cas-gwent a Magwyr.
Os oes gennych ddiddordeb mewn celf a hoffech roi cynnig ar ddysgu i ddarlunio neu baentio, anfonwch e-bost at alcancreate@hotmail.co.uk neu ewch i fy nhudalen ar Facebook, The Art Club Social.
Gareth Kingdon
Crëwyd y llun hwn gan Gareth Kingdon (1982 – 2013), ffotograffydd dogfennol rhyngwladol a oedd yn caru Affrica. Roedd Gareth yn glaf o dan ofal Canolfan Ffeibrosis Systig Cymru Gyfan i Oedolion, Ysbyty Athrofaol Llandochau, a gefnogodd ei astudiaethau ym maes Ffotograffiaeth Ddogfennol ym Mhrifysgol Casnewydd a’i helpu i gyflawni ei uchelgeisiau artistig a phroffesiynol.
Treuliodd amser yn ardaloedd tlotaf Uganda, Kenya ac India, yn tynnu lluniau o fri rhyngwladol o fywyd bob dydd yno.
Roedd Gareth yn rhan o dîm Elusen Mothers of Africa a fu’n ymweld â Zambia yn 2013, gyda’r nod o ddogfennu clinigau cyn-geni ac ar ôl geni gwledig wrth i’r elusen ddechrau’r gwaith o helpu i wella cyfraddau marwolaethau mamau yn y rhanbarth. Yn anffodus, fe aeth yn sâl yn ystod y trip a chafodd ei gludo mewn awyren o Orllewin Affrica i Gymru, gan farw o fethiant anadlol.
Dewisodd Gareth i fanteisio i’r eithaf ar y bywyd a oedd ganddo, a gwneud beth y gallai, ble y gallai; ysbrydoliaeth i gynifer.
Gellir gweld ei luniau sydd wedi ennill gwobrau rhyngwladol yma: http://www.garethkingdonphotography.com
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am raglen ‘Wales for Africa’ Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, gweler yma:
http://www.cardiffandvaleuhb.wales.nhs.uk/wales-for-africa
Mae’r llun wedi ei roi gan ei weddw, Clare Morgan, i ddiolch am y gofal rhagorol a gafodd hi a Gareth gan BIP Caerdydd a’r Fro.
