
The Arts for Health and Wellbeing team supported by Cardiff & Vale Health Charity continually strive to make the lives of our patients, their families and our staff better, through Art. This aim is at the heart of what we do, each and every day.
We know that visual and performing arts in healthcare environments helps to reduce stress, anxiety and sickness and our Arts programme in Cardiff and Vale UHB has certainly proved this to be true, especially in the case of George Pope, a patient at out Stroke Rehabilitation Centre.
George’s story is truly inspiring!
“Art has helped me in all sort of ways. In one particular way, it has helped my right hand move better and recover. Art also helps me to relax.
I started art two years ago due to attending some free lessons and I thoroughly enjoyed them. I then decided to buy my own equipment later on so that I was able to continue to make my art at home and then I realised I was getting good at it.
For my artwork, I am inspired by life in general. If I see a fox for example it inspires me to do wildlife scenes. My art has come on so much since I have been in hospital and I enjoy creating from my imagination. I have had lots of time to think and I am really happy that my art work will be shown in an art gallery.
My paintings show the truth, some are happy, some are sad and some are confused – that’s just life. My 1960’s inspired pieces are all happy, sad and confused and that is what’s real to me.
When I am able to go home, which will be soon, I will continue to make my artwork and I hope to enter an art show in Cardiff. I am proud of my art and want people to see it.
The effects of my stroke are now healing well and I am now learning again how to walk up steps after six weeks. My art helps motivate me to recover and I am able to use both arms now to make my artwork.”
– George Pope, Stroke Rehabilitation Centre

George has touched the lives of all those who work with him and care for him with his passion for art and has proved a true inspiration for other patients in the Rehabilitation centre as well as the staff to follow their passion for art.
George’s patient story including quotes from those who have supported him in his recovery can be viewed via the following link.

Mae tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles, gyda chefnogaeth Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, yn ymdrechu’n barhaus i wneud bywydau ein cleifion, eu teuluoedd a’n staff yn well trwy Gelf. Mae’r nod hwn wrth wraidd yr hyn rydym yn ei wneud, bob dydd.
Rydym yn gwybod bod celfyddydau gweledol a pherfformio mewn amgylcheddau gofal iechyd yn helpu i leihau straen, gorbryder a salwch ac mae ein rhaglen Celfyddydau yn BIP Caerdydd a’r Fro yn sicr wedi profi bod hyn yn wir, yn enwedig yn achos George Pope, claf yn ein Canolfan Adsefydlu ar ôl Strôc.
Mae stori George yn wirioneddol ysbrydoledig!
“Mae celf wedi fy helpu ym mhob math o ffyrdd. Mewn un ffordd benodol, mae wedi helpu fy llaw dde i symud yn well ac adfer. Mae celf hefyd yn fy helpu i ymlacio.
Dechreuais wneud gwaith celf ddwy flynedd yn ôl yn dilyn mynychu rhai gwersi am ddim ac roeddwn i wrth fy modd. Yna penderfynais brynu fy offer fy hun fel bod modd i mi barhau i wneud gwaith celf gartref ac fe sylweddolais fy mod i’n weddol dda.
Mae fy ysbrydoliaeth ar gyfer fy ngwaith celf yn dod gan fywyd yn gyffredinol. Os welaf i lwynog, er enghraifft, mae’n fy ysbrydoli i wneud golygfeydd o fywyd gwyllt. Mae fy nghelf wedi datblygu cymaint ers i fi fod yn ysbyty ac rydw i’n mwynhau creu o fy nychymyg. Rydw i wedi cael llawer o amser i feddwl ac rydw i’n hapus iawn y bydd fy ngwaith celf yn cael ei arddangos mewn oriel gelf.
Mae fy mhaentiadau’n dangos y gwir, mae rhai yn hapus, rhai yn drist a rhai wedi drysu – dyna sut mae bywyd. Mae fy narnau sydd wedi’u hysbrydoli gan y 1960au i gyd yn hapus, trist a dryslyd a dyna beth sy’n real i fi.
Pan fydda i’n gallu mynd adref, a fydd cyn bo hir, bydda i’n parhau i greu fy ngwaith celf ac rydw i’n gobeithio cymryd rhan mewn sioe gelf yng Nghaerdydd. Rydw i’n falch o fy ngwaith celf ac eisiau i bobl ei weld.
Mae effeithiau fy strôc bellach yn gwella’n dda ac rydw i’n dysgu sut i gerdded i fyny’r grisiau unwaith eto ar ôl chwe wythnos. Mae celf yn helpu i
fy ysgogi i wella ac rydw i bellach yn gallu defnyddio’r ddwy fraich i wneud fy ngwaith celf.”
-George Pope, Canolfan Adsefydlu ar ôl Strôc

Mae George wedi cyffwrdd â bywydau’r rhai sy’n gweithio gydag ef a’r rhai sy’n gofalu amdano gyda’i angerdd dros gelf ac wedi bod yn ysbrydoliaeth ar gyfer cleifion eraill yn y ganolfan Adsefydlu yn ogystal â’r staff i ddilyn eu hawch am gelf.
Mae’n bosibl gweld hanes George fel claf, gan gynnwys dyfyniadau gan y rhai hynny sydd wedi’i gefnogi gyda’i broses adfer, trwy ddilyn y ddolen ganlynol.