The Arts for Health and Wellbeing team are pleased to have once again worked with Grosvenor interiors on some amazing Arts projects. One of the aims of the Arts programme, supported by Cardiff & Vale Health Charity, is to enhance the experience of our patients and their families, and we are pleased to have collaborated with Grosvenor to design and install vinyl artwork in a few of our hospital sites.
CHAPS

The Cardiff Health Access Practice in Cardiff Royal Infirmary is a GP Practice managed by the Health Board providing access to essential services for some of Cardiff’s most vulnerable groups including, Asylum Seekers, Vulnerable Groups & Safe Haven patients. The Arts team has worked with the practice to create a warm and welcoming environment for patients and their families using art, and including poetry in the wall art has also helped to promote a calm and tranquil experience for those attending the clinic, this piece was supported by NHS Charities Together funding.
Dr Ayla Cosh, Clinical Director of the practice has stated “We are very grateful to the Arts and Health Charity for their support and advice with making the department more welcoming to service users and staff through the artwork. We particularly appreciate the time they have spent working with our service users to create pieces that are relevant and sensitive.“
Peter Gray House

The artwork placed in the staff room at Peter Gray House was designed in order to promote calmness, but also as a specific ‘Thank You’ to ITU staff that have worked tirelessly through the Pandemic, and as stated in the words, ‘have been our guiding light in the storm’. This artwork and poetry was supported by the Cardiff & Vale Health Charity Make it Better fund.
Julie Highfield, Consultant Clinical Psychologist was delighted with the work and the reaction from those who use the space “We wanted to mark the hard work of our ICU staff with a positive image, and also to brighten their staff space- we are very grateful to the Health Charity for both coordinating and financially supporting this project. Thank you.”
Therapies Rehabilitation Room

The aim of the work placed in the Therapies Rehabilitation room in A4, UHW was to not only enhance the environment but to actively participate in patient recovery. The wall vinyl was specifically designed to support the patients that use the space for rehabilitation and recovery as they perform everyday tasks in a supported environment. This project was also supported by the Make it Better fund. Isabelle Belle, Occupational Therapist has tweeted “Massive thank you to the Health Charity for our new artwork in the Cardiff Major Trauma Centre PTU rehab room! It has really brightened the space and our spirits already!”
These projects are wonderful examples of how the Arts Team and Health Charity work collaboratively with specific wards, inpatient areas and local or national companies to make the lives of our patients, their families and our staff better through Art.
As always, if you would like to support to Arts for Health and Wellbeing Team to continue this wonderful work please visit us at http://www.cardiffandvale.art
Mae tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn falch o fod wedi gweithio gyda Grosvenor Interiors unwaith eto ar rai prosiectau Celf anhygoel. Un o nodau rhaglen y Celfyddydau, gyda chefnogaeth Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, yw gwella profiad ein cleifion a’u teuluoedd, ac rydym yn falch o fod wedi cydweithio â Grosvenor i ddylunio a gosod gwaith celf finyl yn rhai o’n safleoedd ysbyty.
CHAPS

Mae Practis Mynediad i Ofal Iechyd Caerdydd yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd yn Bractis Meddyg Teulu wedi’i reoli gan y Bwrdd Iechyd, sy’n darparu mynediad at wasanaethau hanfodol i rai o grwpiau mwyaf agored i niwed Caerdydd gan gynnwys Ceiswyr Lloches, Grwpiau Bregus a chleifion Hafan Ddiogel. Mae tîm y Celfyddydau wedi gweithio gyda’r practis i greu amgylchedd cynnes a chroesawgar i gleifion a’u teuluoedd gan ddefnyddio celf, ac mae cynnwys barddoniaeth yn y murluniau hefyd wedi ychwanegu at brofiad tawel a heddychlon y rhai sy’n dod i’r clinig. Cefnogwyd y darn hwn gan gyllid NHS Charities Together.
Dywedodd Dr Ayla Cosh, Cyfarwyddwr Clinigol y practis “Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles am eu cymorth a’u cyngor er mwyn gwneud yr adran yn fwy croesawgar i ddefnyddwyr gwasanaethau a staff drwy waith celf. Rydym yn gwerthfawrogi’n arbennig yr amser maent wedi’i dreulio yn gweithio gyda’n defnyddwyr gwasanaethau i greu darnau sy’n berthnasol ac yn sensitif.”
Tŷ Peter Gray

Dyluniwyd y gwaith celf yn yr ystafell staff yn Nhŷ Peter Gray i hybu’r ymdeimlad o lonyddwch, ond mae hefyd yn ‘Ddiolch’ penodol i staff yr Uned Gofal Dwys sydd wedi gweithio’n ddiflino trwy’r pandemig, ac fel y dywed yn y geiriau, ‘y golau wnaeth ein harwain yn y storm’. Cefnogwyd y gwaith celf a’r farddoniaeth gan Gronfa ar gyfer Gwella Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro.
Roedd Julie Highfield, Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol wrth ei bodd â’r gwaith a’r ymateb gan y rhai sy’n defnyddio’r ardal “Roeddem am amlygu gwaith caled staff yr Uned Gofal Dwys drwy gyfleu delwedd bositif, a hefyd bywiogi’r ardal i staff – rydym yn ddiolchgar iawn i’r Elusen Iechyd am gydlynu a chefnogi’r prosiect hwn yn ariannol. Diolch yn fawr.”
Ystafell Therapïau Adsefydlu

Nod y gwaith a roddwyd yn yr ystafell Therapïau Adsefydlu yn A4, Ysbyty Athrofaol Cymru oedd nid yn unig gwella’r amgylchedd ond cymryd rhan weithredol yn adferiad cleifion. Dyluniwyd y finyl ar y wal yn arbennig i gefnogi’r cleifion sy’n defnyddio’r gofod i adfer ac adsefydlu wrth iddyn nhw gyflawni tasgau bob dydd mewn amgylchedd lle darperir cefnogaeth. Cafodd y prosiect hwn ei gefnogi gan y Gronfa ar gyfer Gwella hefyd. Mae Isabelle Belle, Therapydd Galwedigaethol wedi nodi’r canlynol ar Twitter “Diolch enfawr i’r Elusen Iechyd am ein gwaith celf newydd yn ystafell adsefydlu PTU Canolfan Trawma Mawr Caerdydd! Mae wir wedi bywiogi’r lle ac wedi codi ein calonnau’n barod!”
Mae’r prosiectau hyn yn enghreifftiau hyfryd o sut y mae Tîm y Celfyddydau a’r Elusen Iechyd yn gweithio ar y cyd gyda wardiau penodol, ardaloedd i gleifion mewnol a chwmnïau lleol neu genedlaethol i wella bywydau ein cleifion, eu teuluoedd a’n staff trwy Gelf.
Fel erioed, os hoffech chi gefnogi Tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles i barhau â’r gwaith hwn, ewch i http://www.Cardiffandvale.art