We are delighted to have on display in our Staff Area Exhibition Space, a variety of paintings, by members of Art Club Social, a small independent artist community group in Chepstow.

Set up by Art Club Social art teacher Alison Heard in 2018, the group of artists meet weekly to learn, inspire and create artwork together. With a variety of workshop sessions, ideas and challenges to work towards, this exhibition promotes this wonderful connection of artists creating and supporting one another.

“I Set up Art Club Social in 2018, meeting weekly in the local village chapel.

My aim was to re- kindle a creative spark, meet likeminded creatives and teach some skills and techniques in a fun, friendly and informal ‘art college’ style way.

Since the Covid-19 pandemic, we adapted to online and have continued to meet weekly in this way. Whilst this has had its challenges and we have missed meeting face to face, it has allowed us to keep in touch and continue to create dynamic, beautiful and interesting work to share with one another.

Art Club Social is a core group of six artists. The artists are Patty James, Claire Dutson, Tony Appleby, Linda Perry, Sharona Young and myself, Alison Heard. The creative sessions are always fun and chatty with the emphasis on play and discovery of style and media. Normally I take the artists through a program of different skills and media, including pen, charcoal, watercolours and much more but for this exhibition most artists have chosen acrylic and have painted whatever has inspired them, often using purely emotional, imaginative responses to mood or surroundings.

I love teaching Art Club Social. The members are more like lovely friends that allow me to guide their artistic interest and passion to create. I critique their artwork and offer ways of improving or thinking how to produce different outcomes. They are always striving to capture their love of colour, animals and nature to produce some wonderful art.

We hope you enjoy our exhibition at University Hospital Llandough.”

Alison Heard

Currently Art Club Social is held online and from the 16th September Alison will be starting a month long block of drawing and painting sessions that will be held at Toast Café in Chepstow.

If you would like to know more about Art Club Social, would like to become a member or would like to get involved in the sessions, please email Alison Heard on alcancreate@hotmail.co.uk. The members of the Art Club Social would love to hear from you.

This collection of artwork will be on display here at University Hospital Llandough until the end of November 2021.

If you would like more information or to purchase any of the artworks please contact Molly Lewis, the Gallery Coordinator on:

07970 070153 or molly.lewis3@wales.nhs.uk

Available Monday – Wednesday 9am-4pm.

Rydym yn falch iawn o arddangos amrywiaeth o baentiadau yn ein Hardal Arddangos i Staff gan aelodau o Art Club Social, grŵp bach cymunedol annibynnol o artistiaid yng Nghas-gwent.

Wedi’i sefydlu gan athrawes gelf Art Club Social, Alison Heard yn 2018, mae’r grŵp o artistiaid yn cwrdd yn wythnosol i ddysgu, ysbrydoli a chreu gwaith celf gyda’i gilydd. Gydag amrywiaeth o sesiynau gweithdy, syniadau a heriau i weithio tuag atynt, mae’r arddangosfa hon yn annog y cysylltiad hyfryd hwn rhwng artistiaid sy’n creu ac yn cefnogi ei gilydd.

“Fe wnes i sefydlu Art Club Social yn 2018, sy’n cwrdd yn wythnosol yng nghapel lleol y pentref.

Fy nod oedd aildanio fflam greadigol, cwrdd â phobl greadigol o’r un anian a dysgu rhai sgiliau a thechnegau i bobl mewn ffordd hwyliog, gyfeillgar ac anffurfiol, yn arddull ‘colegau celf’.

Ers pandemig COVID-19, rydym wedi addasu i weithio ar-lein ac wedi parhau i gwrdd yn wythnosol fel hyn. Er bod rhai heriau i’w goresgyn a’n bod ni’n gweld eisiau cwrdd wyneb yn wyneb, mae wedi ein galluogi i gadw mewn cysylltiad a pharhau i greu gwaith deinamig, hardd a diddorol i rannu gyda’n gilydd.

Mae Art Club Social yn grŵp craidd o chwech o artistiaid. Yr artistiaid yw Patty James, Claire Dutson, Tony Appleby, Linda Perry, Sharona Young a fi, Alison Heard. Mae’r sesiynau creadigol bob amser yn hwyl, yn llawn sgwrsio, gyda’r pwyslais ar chwarae a darganfod arddull a chyfrwng. Fel arfer, rydw i’n arwain yr artistiaid trwy raglen o sgiliau a chyfryngau gwahanol, gan gynnwys pen, siarcol, dyfrlliwiau a llawer mwy, ond ar gyfer yr arddangosfa hon, mae’r rhan fwyaf o’r artistiaid wedi dewis acrylig a phaentio’r hyn sydd wedi’u hysbrydoli, yn aml yn defnyddio ymatebion emosiynol, llawn dychymyg i hwyliau neu’r hyn sydd o’u cwmpas.

Rydw i wrth fy modd yn dysgu Art Club Social. Mae’r aelodau yn fwy fel ffrindiau hyfryd sy’n fy ngalluogi i arwain eu diddordebau artistig a’u hangerdd i greu. Rydw i’n beirniadu eu gwaith celf ac yn cynnig ffyrdd o wella neu feddwl am sut i gynhyrchu canlyniadau gwahanol. Maen nhw bob amser yn ceisio defnyddio eu cariad at liw, anifeiliaid a natur i gynhyrchu celf arbennig.

Rydym yn gobeithio y gwnewch chi fwynhau ein harddangosfa yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.”

Alison Heard

Ar hyn o bryd, caiff sesiynau Art Club Social eu cynnal ar-lein ac o 16 Medi, bydd Alison yn dechrau cyfres o sesiynau darlunio a phaentio mis o hyd a fydd yn cael eu cynnal yn Toast Café yng Nghas-gwent.

Os hoffech chi wybod rhagor am Art Club Social, bod yn aelod neu gymryd rhan yn y sesiynau, anfonwch e-bost at Alison Heard: alcancreate@hotmail.co.uk. Byddai aelodau’r Art Club Social wrth eu bodd yn clywed gennych.

Bydd y casgliad hwn o waith celf yma tan ddiwedd mis Tachwedd 2021.

Os hoffech ragor o wybodaeth, neu i brynu unrhyw un o’r darnau celf, cysylltwch â Molly Lewis, Cydlynydd yr Oriel ar:

07970 070153 neu molly.lewis3@wales.nhs.uk

Ar gael o ddydd Llun i ddydd Mercher 9am-4pm.

Let’s hear from the artists/Gair gan yr artistiaid:

Patty James

The artwork produced here was all a result from a study in free painting and mark making. I used various implements from around the house as well as things found in nature and different brush effects to create interesting marks and textures. The landscapes and scenes were all inspired by the natural imagery found in wales from both the seaside and countryside. Starting with a primary colour pallet, I enjoy making different shades and tones and I try to create a perspective which invites the viewer into the scene.

Mae’r gwaith celf a gynhyrchwyd yma i gyd yn deillio o astudiaethau paentio rhydd a chreu marciau. Defnyddiais amrywiaeth o declynnau o bob rhan o’r tŷ, yn ogystal â phethau y gwnes i eu canfod ym myd natur, ac effeithiau brwsh gwahanol i greu marciau a gweadau diddorol. Cafodd y tirluniau a’r golygfeydd eu hysbrydoli gan ddelweddau naturiol sydd i’w gweld yng Nghymru o ardaloedd glan môr a chefn gwlad. Gan ddechrau gyda phaled lliwiau sylfaenol, rydw i’n mwynhau creu cysgodion ac arlliwiau gwahanol ac rydw i’n ceisio creu safbwynt sy’n gwahodd y sawl sy’n edrych ar y llun i mewn i’r olygfa.

Claire Dutson

I enjoy Art for the sheer joy of it. I am drawn to and inspired by animals which are not easily able or obvious in expressing their thoughts. I work quickly and I like acrylics as they allow me to express myself and the colours can be moved around and layered.

Levi- Leviathon – Serving as a beacon in the vast universe of the Ocean. He is absorbing all our hopes and fears in the deep, suspending them without judgement.

Bob Bob Rabbit – He has a luxurious coat yet a streetwise eye. He befriends anyone regardless of background.

Rydw i’n mwynhau Celf oherwydd y pleser rydw i’n ei gael. Rydw i’n cael fy nhynnu at a fy ysbrydoli gan anifeiliaid sydd ddim â’r gallu i fynegi eu teimladau yn hawdd nac mewn ffordd amlwg. Rydw i’n gweithio’n gyflym ac rydw i’n hoff o acryligau gan eu bod yn fy ngalluogi i fynegi fy hun ac mae’n bosibl symud y lliwiau a chreu haenau.

Levi- Leviathon – Ffagl ym mydysawd eang y Cefnfor. Mae’n amsugno ein holl obeithion a’n hofnau yn y dwfn, gan eu hatal heb feirniadaeth.

Bob Bob Rabbit – Mae ganddo got foethus ond llygad strydgall. Mae’n dod yn gyfaill i unrhyw un waeth beth yw ei gefndir.

Tony Appleby

I have no idea why I chose to depict roses on a bright blue background: this was a totally imagined scene. Maybe the sweep of the leaves inspired me. This painting went through lots of different stages, starting with sweeping Reed foliage but later transforming into a bouquet of roses. I mostly enjoy depicting either still life or rural rustic buildings which I like to capture in pen and ink. I suppose these are my favourite things to draw as they don’t move very much!

Does gen i ddim syniad pam y dewisais ddarlunio rhosod ar gefndir glas llachar: roedd hon yn olygfa gwbl ddychmygol. Mae’n bosibl mai ysgubiad y dail a fy ysbrydolodd. Aeth y paentiad hwn trwy lawer o gamau gwahanol, gan ddechrau gydag ysgubo deiliach Cyrs a thrawsnewid yn dusw o rosod yn ddiweddarach. Rydw i’n mwynhau darlunio naill ai bywyd llonydd neu adeiladau gwledig yn bennaf, gan ddefnyddio pen ac inc. Dyma fy hoff bethau i’w darlunio gan nad ydynt yn symud ryw lawer ‘dwi’n tybio!

Alison Heard

Tomatoes is the first oil painting I have produced since my Art college days and Lady Dochdwy the first watercolour on canvas I’ve ever produced! I wanted to create something beautiful and serene and also joyous and natural and I hope both of these do this. I am inspired by the natural, the historic, the unusual and the simplicity of emotion conveyed through lines, light and shade. However, Portraits and Portraiture are my absolute favourite thing and the challenge of capturing life is always a massive inspiration.

Tomatoes – I love my Greenhouse. The smell of the tomatoes and leaves never fail to deliver the most amazing sensory experience. My greenhouse is in a very warm sheltered part of the garden and I love the way the light filters through the leaves and onto the ground. I wanted to paint something natural and outdoors that would make someone in hospital hopefully feel better, especially if they were missing their own tomatoes!

Lady Dochdwy – When Art club was offered this exhibition I began to research the name of llandough and found out the local church was founded by St. Dochdwy. I visited and was struck by some of the images in the stained glass windows. I wasn’t sure however how to depict these in a way that excited and interested me. I then remembered a favourite painting by Alphonse Mucha called Zodiac, in which a very beautiful lady is surrounded by astrological signs. I thought I could substitute some of them with images of St. Dochdwy! So here now is Lady Dochdwy in all her glory.

Tomatoes yw’r paentiad olew cyntaf i mi ei gynhyrchu ers fy nyddiau yn y coleg Celf a Lady Dochdwy yw’r paentiad dyfrlliw ar ganfas cyntaf i mi ei gynhyrchu erioed! Roeddwn i eisiau creu rhywbeth hardd a thawel, sydd hefyd yn llawen a naturiol ac rydw i’n gobeithio bod y ddau yma’n llwyddo i wneud hynny. Rydw i’n cael fy ysbrydoli gan y naturiol, yr hanesyddol, yr anghyffredin a symlrwydd emosiwn a gaiff ei gyfleu trwy linellau, golau a chysgod. Fodd bynnag, Portreadau a Phortreadu yw fy hoff bethau ac mae’r her o gofnodi bywyd bob amser yn ysbrydoliaeth enfawr.

TomatoesRydw i’n caru fy Nhŷ Gwydr. Mae arogl tomatos a dail bob amser yn creu’r profiad synhwyraidd mwyaf anhygoel. Mae fy nhŷ gwydr mewn rhan gynnes, gysgodol o’r ardd ac rydw i wrth fy modd â’r ffordd y mae’r golau yn treiddio trwy’r dail ar y tir. Roeddwn i eisiau paentio rhywbeth naturiol yn yr awyr agored a fyddai’n gwneud i rywun yn yr ysbyty deimlo’n well, yn enwedig os oeddent yn gweld eisiau eu tomatos eu hunain!

Lady Dochdwy – Pan gafodd y clwb Celf gynnig cymryd rhan yn yr arddangosfa hon, dechreuais ymchwilio i enw Llandochau a chanfod bod yr eglwys leol wedi’i hariannu gan St. Dochdwy. Fe es i yno a chefais fy nharo gan rai o’r delweddau yn y ffenestri gwydr lliw. Doeddwn i ddim yn siŵr, fodd bynnag, sut i’w darlunio mewn ffordd a oedd yn fy nghyffroi a fy niddori. Yna fe gofiais am un o fy hoff baentiadau gan Alphonse Mucha o’r enw Zodiac, a oedd yn fenyw hardd iawn wedi’i hamgylchynu gan arwyddion astrolegol. Fe feddyliais y gallwn i ddefnyddio lluniau o St. Dochdwy yn lle rhai ohonynt! Felly dyma Lady Dochdwy yn ei holl ogoniant.

Linda Perry

I have recently joined the art group to learn new skills and to participate in a hobby that is both relaxing and social. Prior to joining the group, I had not painted since childhood. I have found that taking part is therapeutic in a hectic life. My paintings are personal to me. The first painting is a view from my home with the bright colours reflecting the joy that I feel when looking at the scene. The second painting is also personal and reflect my emotions and feelings in that moment.

Rydw i wedi ymuno â’r grŵp celf yn ddiweddar i ddysgu sgiliau newydd a chymryd rhan mewn hobi sy’n gymdeithasol ac yn cynnig cyfle i ymlacio. Cyn ymuno â’r grŵp, doeddwn i ddim wedi paentio ers fy mhlentyndod. Rydw i wedi canfod bod cymryd rhan yn brofiad therapiwtig mewn bywyd sydd mor brysur. Mae fy mhaentiadau yn bersonol i fi. Mae’r paentiad cyntaf yn olygfa o fy nghartref gyda’r lliwiau llachar yn adlewyrchu’r hapusrwydd rydw i’n ei deimlo wrth edrych ar yr olygfa. Mae’r ail baentiad hefyd yn bersonol ac yn adlewyrchu fy emosiynau a fy nheimladau yn yr ennyd honno.

Sharona Young

Fruit stack – I wanted to go wild and experiment. I love painting animals hence my decision to include a dog and a cat under the curtains of the painting either side. For the centre of the image I decided to go more unconventional. I used acrylics, pencil, pen and pastels. I wanted to ignore my usual boundaries of form and paint various items and shapes as they occurred to me. I am pleased with the result.

Max – This is a painting for my husband. It is a very special painting to me for a number of reasons. First, it was painted as a gift towards his 60th birthday. Second, my husband is a keen gardener, so painting the flowers and the green lawn was something I knew he’d appreciate. Third, the painting is of our dear dog Max, who had passed away. The image feels a sweet way of remembering such a wonderful influence on the life of our family. He was a good dog.

Sid – I was firstly attracted to the heart shaped canvas as id never seen one before. So When considering the image I wanted to paint on the canvas, the link between the love heart and how romantic Swans are to me, it seemed obvious the two were made for each other ! I have fond memories of walking to a nearby lake with my husband and watching the swans form their love heart shape necklines. The painting is in Acrylics which I favour for their malleability and I experimented with adding some fine line pen.

Fruit stack – Roeddwn i eisiau mynd yn wyllt ac arbrofi. Rydw i wrth fy modd yn paentio anifeiliaid a dyma’r rheswm dros gynnwys ci a chath o dan lenni’r paentiad ar bob ochr. Ar gyfer canol y llun, penderfynais fod yn fwy anghonfensiynol. Defnyddiais acrylig, pensil, pen a phasteli. Roeddwn i eisiau anwybyddu fy ffiniau arferol o ffurf a phaentio eitemau a siapiau amrywiol wrth i fi feddwl amdanynt. Rydw i’n falch o’r canlyniad.

Max – Mae’r paentiad hwn ar gyfer fy ngŵr. Mae’n baentiad arbennig iawn i fi am sawl rheswm. Yn gyntaf, cafodd ei baentio fel rhodd iddo ar gyfer ei ben-blwydd yn 60 oed. Yn ail, mae fy ngŵr yn arddwr brwd, felly roedd paentio’r blodau a’r lawnt werdd yn rhywbeth roeddwn i’n gwybod y byddai’n ei werthfawrogi. Yn drydydd, mae’n baentiad o’n ci annwyl Max, a fu farw. Mae’r llun yn teimlo fel ffordd arbennig o gofio faint o ddylanwad hyfryd a fu ar fywyd ein teulu. Roedd yn gi da.

Sid – Cefais fy nenu at y canfas siâp calon i ddechrau gan nad oeddwn wedi gweld un o’r blaen. Felly wrth ystyried y llun roeddwn i eisiau ei baentio ar y canfas, daeth i’r amlwg bod y cysylltiad rhwng y galon a pha mor rhamantus yw elyrch i mi yn arwydd bod y ddau yn berffaith ar gyfer ei gilydd! Mae gen i atgofion melys o gerdded at lyn cyfagos gyda fy ngŵr a gwylio’r elyrch yn ffurfio siâp calon gyda’u gyddfau. Mae’r paentiad wedi’i greu o acryligau gan fy mod i’n hoff o’u hydrinedd ac fe arbrofais drwy ychwanegu pen llinell fain.

Leave a Reply