Wild at Heart

We are delighted to introduce our new Corridor Exhibition at University Hospital Llandough, Wild at Heart by local Artist Andrea Grottick.

Through this display of artwork, which consists of her Identity Paintings and Chakra Paintings collections, Andrea touches upon our connection with the natural world and more specifically, how as humans, we are closely connected to animals, not only through evolution and our physical capabilities but also spiritually.

“It is widely believed that when animals visit us in our dreams, they are there as a spirit guide to show the dreamer the part of their character that needs attention.  ‘Wild At Heart’ is a collection of oil paintings that look at human characteristics assigned to spirit animals.  The connection with the natural world and animal kingdom is depicted through repetitive patterns; such as the foliage surrounding the dreamlike impression of an animal’s head.

A stylised symbol of a DNA strand reaches into a sea of circles, to enhance the feeling of connection between human and animal; are the animals’ characteristics embedded in our DNA to form part of our identity, or do we project our identities on to the animals?  The circles represent all the people and events in our lives spinning around us like wheels or cogs of a machine.  From a distance, they appear to blend in and are not easily distinguishable as individual, unique forms; however, some are larger, some darker, some rise to the top, some drift behind, all are imperfect, much like we are.” – Andrea Grottick.

This exhibition will be on display in our Corridor Exhibition Space at University Hospital Llandough from 18th August – 25th October 2021.

If you require further information on any of the artworks on show, please contact Molly Lewis, the Gallery Coordinator on molly.lewis3@wales.nhs.uk


The 7 Chakra Paintings

“The first painting in this collection was ‘Lone Wolf’. I painted this for a group project with the theme of Identity. The wolf often appears to me in my dreams and sparked my interest in spirit animals and their meanings. The idea evolved into a collection of popular animals matched with their human characteristics and meanings for the dreamer. I then completed a series of 7, which identifies the animals with the identities of each of the seven chakras. Each one is painted in the corresponding chakra colour. I really enjoyed painting these and researching the spirit animals. I’d love to do more and welcome commissions for any animal, bird or amphibian of your choosing.
‘I Do’ is the only painting in this collection which is not for sale as I am giving it to a very courageous cancer survivor, who has embodied all of the solar plexus chakra/lion characteristics throughout her treatment.
Over the last few years, I have lost dear friends to cancer so, for that reason, I would like to donate 10% of any sales resulting from this exhibition to Marie Curie for their Nurses, who treated my friends with such compassion.” – Andrea Grottick

About the Artist
Andrea Grottick was born in Essex in 1975. From an early age, she developed an interest inhuman relations and how people interact with their environment and the wildlife. She completed a degree in Fine Art and held regular exhibitions, then gained a PGCE at the University of South Wales. Andrea worked in Mental Health for several years and designed an ‘art for wellbeing’ programme for Ben Uri Gallery, London; she now works as a full-time artist, based in Cardiff.
Andrea uses oil paint with thinners and pours and drips it in multiple layers on the canvas. She uses fast drying oils, as she finds waiting for conventional oil paints takes away from the joyful spontaneity of her technique. Andrea paints her backgrounds intuitively, then uses reference photos for a detailed representation of a person or animal.
http://www.andreagrottickart.com
http://www.instagram.com/andreagrottickart/

Wild at Heart

Rydym yn falch iawn o gyflwyno ein Harddangosfa Goridor newydd yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, Wild at Heart, gan yr artist lleol Andrea Grottick.

Trwy’r arddangosfa hon o waith celf, sy’n cynnwys ei chasgliadau Paentiadau Hunaniaeth a Phaentiadau Chakra, mae Andrea yn cyffwrdd ar ein cysylltiad â’r byd naturiol ac yn fwy penodol, sut ein bod ni fel bodau dynol mor gysylltiedig ag anifeiliaid, nid yn unig drwy esblygiad a’n galluoedd corfforol ond hefyd yn ysbrydol.

“Y gred gyffredin yw pan fo anifeiliaid yn ymweld â ni yn ein breuddwydion, maent yno fel arweinwyr ysbrydol i ddangos i’r breuddwydiwr pa ran o’i gymeriad sydd angen sylw.  Mae ‘Wild At Heart’ yn gasgliad o baentiadau olew sy’n edrych ar nodweddion dynol sydd wedi’u neilltuo i anifeiliaid ysbrydol.  Mae’r cysylltiad gyda’r byd naturiol a byd yr anifeiliaid yn cael ei bortreadu drwy batrymau ailadroddus; megis y deiliach sy’n amgylchynu’r argraff freuddwydiol o ben yr anifail.

Mae symbol arddulliedig o edefyn DNA yn ymestyn i fôr o gylchoedd, i wella’r teimlad o gysylltiad rhwng dyn ac anifail; ydy nodweddion yr anifail wedi’u hymgorffori yn ein DNA i greu rhan o’n hunaniaeth, neu ydyn ni’n rhoi ein hunaniaethau ar yr anifeiliaid?  Mae’r cylchoedd yn cynrychioli’r bobl a’r digwyddiadau yn ein bywydau yn troelli o’n cwmpas fel olwynion neu gogiau peiriant.  O bellter, ymddengys eu bod yn ymdoddi ac nid yw’n hawdd gwahaniaethu rhyngddynt fel ffurfiau unigol, unigryw; fodd bynnag, mae rhai yn fwy o ran maint, rhai yn fwy tywyll, rhai yn codi i’r brig, rhai yn llithro i’r cefn, maen nhw i gyd yn amherffaith, yn debyg i ni.” – Andrea Grottick.

Bydd yr arddangosfa i’w gweld yn ein Harddangosfa Goridor yn Ysbyty Athrofaol Llandochau rhwng 18 Awst – 25 Hydref 2021.

Os hoffech ragor o wybodaeth am y gwaith celf sy’n cael ei arddangos, cysylltwch â Molly Lewis, Cydlynydd yr Oriel drwy e-bostio molly.lewis3@wales.nhs.uk

I weld rhagor o waith Andrea ac i gysylltu â hi, ewch i’n gwefan www.cardiffandvale.art/Andrea-Grottick/ neu ewch i wefan Andrea www.andreagrottickart.com  a’i thudalen ar y cyfryngau cymdeithasol @andreagrottickart

Paentiadau y 7 Chakra

“Y paentiad cyntaf yn y casgliad hwn oedd ‘Lone Wolf’.  Fe wnes i ei baentio ar gyfer prosiect grŵp o dan y thema Hunaniaeth.  Mae’r blaidd yn aml yn ymddangos yn fy mreuddwydion ac fe wnaeth danio fy niddordeb mewn anifeiliaid ysbrydol a’u hystyr.  Fe ddatblygodd y syniad yn gasgliad o anifeiliaid poblogaidd yn cyfateb â’u nodweddion dynol a’u hystyr ar gyfer y breuddwydiwr.  Yna fe wnes i gwblhau cyfres o 7, sy’n cyfateb yr anifeiliaid gyda hunaniaethau pob un o’r saith chakra.  Mae pob un wedi’u paentio yn lliw cyfatebol y chakra.  Fe wnes i wir fwynhau paentio’r rhain ac ymchwilio i’r anifeiliaid ysbrydol.  Byddwn i wrth fy modd yn gwneud mwy ac rydw i’n croesawu comisiynau ar gyfer unrhyw anifail, aderyn neu amffibiad o’ch dewis.

‘I Do’ yw’r unig baentiad yn y casgliad hwn sydd ddim ar werth gan fy mod i’n ei roi i oroeswr canser anhygoel o ddewr, sydd wedi ymgorffori holl chakra solar plexus/nodweddion llew trwy gydol ei thriniaeth.

Dros y blynyddoedd diwethaf, rydw i wedi colli ffrindiau annwyl o ganlyniad i ganser felly, am y rheswm hynny, hoffwn roi 10% o unrhyw werthiant sy’n deillio o’r arddangosfa hon i Marie Curie gyda diolch i’r Nyrsys, sydd wedi trin fy ffrindiau gyda chymaint o dosturi.” – Andrea Grottick

Yr Artist

Ganwyd Andrea Grottick yn Essex ym 1975.  O oedran cynnar, fe ddatblygodd ddiddordeb mewn cysylltiadau rhwng bodau dynol a sut y mae pobl yn rhyngweithio â’u hamgylchedd a bywyd gwyllt.  Cwblhaodd radd mewn Celfyddyd Gain, gan gynnal arddangosiadau rheolaidd, ac yna aeth ymlaen i gwblhau cwrs TAR ym Mhrifysgol De Cymru.  Gweithiodd Andrea ym maes Iechyd Meddwl am sawl blwyddyn a dylunio rhaglen ‘celfyddyd ar gyfer lles’ ar gyfer Oriel Ben Uri, Llundain; mae hi bellach yn gweithio fel artist llawn amser, wedi’i lleoli yng Nghaerdydd.

Mae Andrea yn defnyddio paent olew gyda theneuwyr ac yn ei arllwys a’i ddiferu mewn sawl haen ar ganfas.  Mae hi’n defnyddio olew sy’n sychu’n gyflym, gan ei bod hi’n teimlo bod aros i baent olew confensiynol sychu yn tynnu oddi wrth natur ddigymell hwyliog ei thechneg.  Mae Andrea yn paentio ei chefndiroedd yn reddfol, ac yna’n defnyddio lluniau cyfeirio am gynrychiolaeth fanwl o berson neu anifail.

www.andreagrottickart.com

www.instagram.com/andreagrottickart/

Leave a Reply