We are delighted to introduce our new Plaza Exhibition at University Hospital Llandough,“Will you still be there?” by local artist Anna Polya.
“Will you still be there?” is an exhibition of painting and sketchbook work that celebrates the beauty and fragility of the Glamorgan Heritage Coast.
Having always lived in South Wales, it is the wild beauty of the Glamorgan Heritage Coast that continues to capture Anna’s interest and draws her back time and time again to both visit and create her art.
However, amongst the beauty there is also the reality that our landscapes are fragile. The cliffs are crumbling and the frequency of the rock falls is being accelerated by the climate crisis. Anna’s visits to these sites allow her to draw the landscape over and over again, recording these changes over time within her sketchbook.
Whilst this exhibition is a celebration of these wonderful places, with its dramatic cliffs and beautiful beaches, it is also a moment captured in time and a reminder that without care for our planet, these beautiful scenes and landscapes will be lost.
We need to ask the questions: Will it still be there for future generations to enjoy?
When will the human species understand the true danger of losing our precious planet and take action to save it?
The artworks in this exhibition are the result of visiting the area in all weathers and seasons, sketching in pen, watercolour and other media, taking photographs and then working in oil paint on the canvases back in the studio. Some of the works appear “unfinished” so as to leave the viewer to imagine what happens in the spaces and reminds us of what may or may not be around within the landscape in the future.
This exhibition will be on display in our Plaza Exhibition Space at University Hospital Llandough from 11th August – 19th September 2021.
If you require further information on any of the artworks on show, please contact Molly Lewis, the Gallery Coordinator on molly.lewis3@wales.nhs.uk
To see more of Anna’s work and to get in touch, please visit Anna’s online portfolio at http://www.artistsandillustrators.co.uk/annapolyagmailcom
Rydym yn falch iawn o gyflwyno ein Harddangosfa Plaza newydd yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, “Fyddi di dal yno?”, gan yr artist lleol, Anna Polya.
Mae “Fyddi di dal yno?” yn arddangosfa o waith peintio a llyfr brasluniau sy’n dathlu harddwch a breuder Arfordir Treftadaeth Morgannwg.
A hithau bob amser wedi byw yn Ne Cymru, harddwch gwyllt Arfordir Treftadaeth Morgannwg sy’n parhau i ennyn diddordeb Anna ac mae’n ei denu dro ar ôl tro i ymweld a chreu ei gwaith celf.
Fodd bynnag, ymhlith yr harddwch mae’r realiti hefyd bod ein tirweddau yn fregus. Mae’r clogwyni yn chwalu ac mae nifer gynyddol o achosion o gerrig yn cwympo o ganlyniad i argyfwng yr hinsawdd. Mae ymweliadau Anna â’r safleoedd hyn yn gadael iddi ddarlunio’r dirwedd drosodd a throsodd, gan gofnodi’r newidiadau hyn dros amser yn ei llyfr brasluniau.
Er bod yr arddangosfa hon yn ddathliad o’r lleoedd hyfryd hyn, gyda’u clogwyni dramatig a thraethau prydferth, mae hefyd yn crisialu’r neges y byddwn yn colli’r golygfeydd a’r tirweddau bendigedig hyn os na fyddwn yn gofalu am ein planed.
Rhaid i ni ofyn y cwestiynau canlynol: A fydd dal yno i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau?
Pryd y bydd y rhywogaeth ddynol yn deall gwir berygl colli ein planed werthfawr a chymryd camau i’w hachub?
Mae’r gwaith celf yn yr arddangosfa hon yn deillio o ymweliadau â’r ardal ym mhob tywydd a thymor, gan fraslunio mewn pen, dyfrliw a chyfryngau eraill, tynnu ffotograffau, ac wedyn gweithio gyda phaent olew ar y canfasau yn ôl yn y stiwdio. Mae rhai o’r darnau yn ymddangos “heb eu gorffen” er mwyn gadael i’r sawl sy’n edrych arnynt ddychmygu beth sy’n digwydd yn y gwagleoedd, ac yn ein hatgoffa o’r hyn allai, neu na allai fod yn rhan o’r dirwedd yn y dyfodol.
Bydd yr arddangosfa i’w gweld yn Ardal Arddangos y Plaza yn Ysbyty Athrofaol Llandochau rhwng 11 Awst – 19 Medi 2021.
Os hoffech ragor o wybodaeth am y gwaith celf sy’n cael ei arddangos, cysylltwch â Molly Lewis, Cydlynydd yr Oriel drwy e-bostio molly.lewis3@wales.nhs.uk
I weld mwy o waith Anna ac i gysylltu, ewch i bortffolio ar-lein Anna yn http://www.artistsandillustrators.co.uk/annapolyagmailcom
Absolutely wonderful Anna!