The Hearth Gallery at University Hospital Llandough is delighted to present a creative community exhibition by members of the Cardiff & South East Wales charity, Headway that supports people with Acquired Brain Injury.

The exhibition is a showcase of collaborative and experimental work from recent and ongoing creative workshops sessions including art, drama and dance provided by Headway at Rookwood Hospital, supported by Cardiff & Vale Health Charity. Over the last year, Headway have provided these creative sessions both face to face when possible and also adapting virtually for many of the sessions throughout the pandemic.
The exhibition is divided into three sections, each showcasing work from the individual creative sessions that took place at Headway with the service users. The artworks on show were created from sessions called Making our Mark, The Feel of the Place and Who We Are, in which the service users and staff were able to reflect on their identity, their surroundings and their wider Headway community.
With a variety of drawing, storytelling and expressive artwork, this exhibition is a celebration of how art can encourage and support individuals and a community group within a healthcare setting. These sessions and art opportunities enabled the services users with a sense of calm, created a stronger community bond and helped them focus on the immediate creative experiences.
The art work produced as a result of the workshops have also been displayed at the Recreation Hall on the Rookwood Hospital site and we are delighted to be now showing the work within the Hearth Gallery.
This exhibition will be on display in the Hearth Gallery at University Hospital Llandough from 28th July 2021 until 5th September 2021
If you require further information on any of the artworks on show, please contact Molly Lewis, the Gallery Coordinator on molly.lewis3@wales.nhs.uk
Headway Cardiff & South East Wales
We are a small local charity supporting people who have suffered brain injury because of accidents or illness with practical and emotional support services.
This exhibition comes at a key moment in our development, as the Specialist Rehabilitation Hospital at Rookwood closes, and we move from our home there of many years, to our new base on the Llandough site, along with other services.
This exhibition provides us the opportunity to reflect on our history, our identity and our future, and raise awareness of brain injury.
Art provides our members an alternative form of expression, encouraging collaboration, and enabling participation and fulfillment. We are grateful for the funding we have received from Cardiff & the Vale Health Charity to enable this.
Our work explores three themes: how to make our mark on the world when living with complex disability; the history of Rookwood Hospital and our feelings towards it, and our future; our individual identities and our wider Headway community.
Project: Making our Mark
Our members created this artwork, inspired by Jackson Pollock. They used paint bombs, water pistols and squeezy bottles to produce splatter paintings.
They demonstrated that: physical disabilities can be circumvented to create impactful, expressive, and explosive images; and that the joy of participating the creative processes, can be as important as the final work.
Project: The Feel of the Place
Rookwood Hospital’s has been our home for over 25 years. It holds many memories and resonnances. For some it is a refuge, a place of healing and understanding. For others it is a reminder of past trauma, confusion and loss, and returning feels retrogressive.
With its immenient closure, we captured through collage and rubbings: the textures of the place; our feelings towards it; and how it is intertwined with our history.
Looking towards the future, our members from RCT, who have relocated to Trehafod Community Centre did the same with their new venue.
Project: Who we are
Brain Injury can change who we are and our place in the world. Coming to terms with this can be painful and challenging.
Through simple line self-portraits, we explored our sense of identity and role within the wider Headway community. We recognized that our place within this this gives us a sense of belonging, and strength. It is somewhere we feel understood and that we can truly be ourselves.

This exhibition will be on display in the Hearth Gallery at University Hospital Llandough from 28th July 2021 until 5th September 2021
Through a series of drama workshops, facilitated by Hijinx Theatre Company, participants at our Independence and Wellbeing centre explored their sense of identity before and after brain injury, their personal narratives, the role of the Headway Community, and their place in the wider community. These culminated in a series of short films and a performance at Insole Court.
We are also delighted to share a series of films and stop motion animation works. Working with Rose Gleeson, artist practitioner, participants at our Independence and Wellbeing Centre relished the opportunity to combine both newly acquired technical skills, and their fertile imaginations, to produce these short fantastical stop motion animations.
If you require further information on any of the artworks on show, please contact Molly Lewis, the Gallery Coordinator on molly.lewis3@wales.nhs.uk

Mae’n bleser gan Oriel yr Aelwyd yn Ysbyty Athrofaol Llandochau gyflwyno arddangosfa gymunedol greadigol gan aelodau o elusen Headway, o Gaerdydd a De-ddwyrain Cymru, sy’n cefnogi pobl ag Anafiadau i’r Ymennydd.
Mae’r arddangosfa yn waith arbrofol ar y cyd sy’n deillio o sesiynau gweithdy creadigol diweddar a pharhaus yn cynnwys gwaith celf, drama a dawns, a ddarparwyd gan Headway yn Ysbyty Rookwood, ac a gefnogwyd gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Headway wedi darparu’r sesiynau creadigol hyn wyneb yn wyneb lle bo’n bosibl, a hefyd wedi’u haddasu’n rhithwyr ar gyfer llawer o’r sesiynau yn ystod y pandemig.
Rhennir yr arddangosfa yn dair rhan, gyda phob un yn dangos gwaith o’r sesiynau creadigol unigol a gynhaliwyd yn Headway gyda defnyddwyr y gwasanaeth. Cafodd y gwaith celf a arddangosir ei greu o sesiynau o’r enw Creu Argraff, Naws y Lle a Pwy ydyn ni, lle y gallai defnyddwyr y gwasanaeth a’r staff fyfyrio ar eu hunaniaeth, eu hamgylchedd a’u cymuned Headway ehangach.
Gydag amrywiaeth o ddarlunio, adrodd straeon a gwaith celf mynegiannol, mae’r arddangosfa hon yn dathlu sut y gall gwaith celf annog a chefnogi unigolion a grŵp cymunedol o fewn lleoliad gofal iechyd. Gwnaeth y sesiynau a’r cyfleoedd celf hyn roi ymdeimlad o dawelwch i ddefnyddwyr y gwasanaeth, gan greu cyswllt cymunedol cryfach a’u helpu i ganolbwyntio ar y profiadau creadigol uniongyrchol.
Mae’r gwaith celf a gafodd ei greu o ganlyniad i’r gweithdai hefyd wedi’i arddangos yn y Neuadd Hamdden ar safle Ysbyty Rookwood ac rydym wrth ein boddau i fod yn dangos y gwaith nawr o fewn Oriel yr Aelwyd.
Bydd yr arddangosfa yn Oriel yr Aelwyd, Ysbyty Athrofaol Llandochau rhwng 28 Gorffennaf 2021 a 5 Medi 2021.
Os hoffech ragor o wybodaeth am y gwaith celf sy’n cael ei arddangos, cysylltwch â Molly Lewis, Cydlynydd yr Oriel drwy e-bostio molly.lewis3@wales.nhs.uk
Headway Caerdydd a De-ddwyrain Cymru
Rydym yn elusen fach sy’n cefnogi pobl sydd wedi dioddef anafiadau i’r ymennydd o ganlyniad i ddamweiniau neu salwch, drwy gynnig gwasanaethau cymorth ymarferol ac emosiynol.
Daw’r arddangosfa ar adeg allweddol yn ein datblygiad, wrth i’r Ysbyty Adsefydlu Arbenigol yn Rookwood gau, ac wrth i ni symud o’n cartref yno ers llawer o flynyddoedd, i’n lleoliad newydd yn Llandochau, ynghyd â gwasanaethau eraill.
Mae’r arddangosfa hon yn rhoi’r cyfle i ni fyfyrio ar ein hanes, ein hunaniaeth a’n dyfodol, a chodi ymwybyddiaeth o anafiadau i’r ymennydd.
Mae celf yn rhoi ffordd arall i’n haelodau fynegi eu hunain, yn annog cydweithredu ac yn galluogi cyfranogiad a boddhad. Rydym yn ddiolchgar am y cyllid a gawsom gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro er mwyn ein galluogi i wneud hyn.
Mae ein gwaith yn archwilio tair thema: sut i greu argraff ar y byd pan fydd rhywun yn byw ag anabledd cymhleth; ein hanes ni ac Ysbyty Rookwood, ein teimladau tuag ato, a’n dyfodol; ein hunaniaeth unigol a’n cymuned Headway ehangach.
Creu Argraff
Gwnaeth ein haelodau greu’r gwaith celf hwn, a ysbrydolwyd gan Jackson Pollock. Gwnaethant ddefnyddio bomiau paent, gynnau dŵr a photeli gwasgu i gynhyrchu paentiadau tasgu.
Gwnaethant ddangos y gellir goresgyn anableddau corfforol er mwyn creu delweddau dylanwadol, mynegiannol a thrawiadol; ac y gall y llawenydd a geir wrth gymryd rhan yn y prosesau creadigol fod yr un mor bwysig â’r gwaith terfynol.
Naws y Lle
Mae Ysbyty Rookwood wedi bod yn gartref i ni ers dros 25 mlynedd. Mae’n llawn atgofion. I rai pobl mae’n lloches, ac yn rhywle sy’n cynnig gwellhad a dealltwriaeth. I eraill mae’n atgof o drawma, dryswch a cholled y gorffennol, ac mae dychwelyd yn teimlo’n wrthdroadol.
Gyda’r ysbyty ar fin cau, gwnaethom grisialu gweadau’r lle; ein teimladau tuag ato; a sut mae wedi ymblethu â’n hanes, a hynny drwy greu collage a rhwbiadau.
Gan edrych tuag at y dyfodol, gwnaeth ein haelodau o’r Rhondda, sydd wedi adleoli i Ganolfan Gymunedol Trehafod, yr un peth gyda’u lleoliad newydd nhw.
Ni yw Ni
Gall anaf i’r ymennydd newid pwy ydyn ni a’n lle yn y byd. Gall dod i delerau â hyn fod yn boenus ac yn heriol.
Drwy hunanbortreadau llinell syml, gwnaethom archwilio ein synnwyr o hunaniaeth a’n rôl o fewn y gymuned Headway ehangach. Gwnaethom gydnabod bod ein lle o fewn hyn yn rhoi ymdeimlad o berthyn, a chryfder. Mae’n rhywle ble rydym yn teimlo ein bod yn cael ein deall, a rhywle ble gallwn wir fod yn ni ein hunain.
Bydd yr arddangosfa yn Oriel yr Aelwyd, Ysbyty Athrofaol Llandochau rhwng 28 Gorffennaf 2021 a 5 Medi 2021.
Os hoffech ragor o wybodaeth am y gwaith celf sy’n cael ei arddangos, cysylltwch â Molly Lewis, Cydlynydd yr Oriel drwy e-bostio molly.lewis3@wales.nhs.uk