We are delighted to have on display a series of paintings, both on canvas and wood, by local artist, Rita Patel.
During September 2020, Rita’s artwork was a wonderful addition to our ‘With Thanks’ exhibition at the Hearth Gallery, our first exhibition back open since March 2020 that celebrated the wonderful work and effort of all our NHS staff and care workers during the ongoing difficult time of Covid-19. Rita, during this time, also very kindly donated some of her artworks to Cardiff & Vale University Health Board which are now displayed across the Health Board sites, brightening environments for staff and patients to enjoy.
With her passion to inspire others to get creative, we are delighted to share more of her paintings with you with this collection of recent work which Rita has been working on over the last 6 months.
“Painting has always been a passion of mine, but the reason I began painting landscapes is for my own wellbeing. I’ve been suffering with mild anxiety and depression, but when I realised that beautiful landscapes and my love for animals helped me to cope with it, I decided to create landscape paintings. The purpose of this was not only to share the beauty of our natural world with others, but also to bring awareness and love for our beautiful landscapes and animals to help restore respect for our natural world.
My artwork is mainly in acrylic paints using stretched canvas and I also recently started painting on wood slices. My art is based on nature, be it abstract or otherwise. My aim is to create art where my audience can immerse themselves in it and experience the peace, joy and happiness to help bring positivity to their wellbeing.”
Instagram and Facebook: @Artbyritapatel
Rita’s work will be on display until the end of August 2021.
If you would like more information or to purchase any of the artworks please contact Molly Lewis, the Gallery Coordinator on molly.lewis3@wales.nhs.uk
Rydym yn falch iawn o arddangos cyfres o baentiadau, ar ganfas ac ar bren, gan yr artist lleol Rita Patel.
Ym mis Medi 2020, roedd gwaith celf Rita yn ychwanegiad hyfryd i’n harddangosfa ‘Gyda Diolch’ yn Oriel yr Aelwyd, ein harddangosfa gyntaf i ailagor ers mis Mawrth 2020, a oedd yn dathlu gwaith ac ymdrech anhygoel holl staff y GIG a gweithwyr gofal yn ystod cyfnod anodd COVID-19. Yn ogystal yn ystod y cyfnod hwn, yn garedig iawn, rhoddodd Rita ddarnau o’i gwaith celf i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro sydd bellach yn cael eu harddangos ar draws safleoedd y Bwrdd Iechyd, gan lonni amgylcheddau er mwyn i staff a chleifion eu mwynhau.
Gyda’i brwdfrydedd i ysbrydoli eraill i fod yn greadigol, mae’n bleser gennym rannu rhagor o’i phaentiadau gyda’r casgliad hwn o ddarnau diweddar y mae Rita wedi bod yn gweithio arnynt dros y 6 mis diwethaf.
“Rydw i wedi bod yn frwd am baentio erioed, ond dechreuais baentio tirluniau er budd fy lles fy hun. Rydw i wedi bod yn dioddef o orbryder ac iselder ysgafn, ond pan sylweddolais fod tirluniau hardd a fy nghariad at anifeiliaid yn fy helpu i ymdopi, penderfynais greu paentiadau o dirluniau. Diben hyn oedd nid yn unig i rannu harddwch ein byd naturiol gydag eraill, ond hefyd i godi ymwybyddiaeth a rhannu cariad at ein tirweddau a’n hanifeiliaid hardd er mwyn helpu i adfer parch at ein byd naturiol.
Paent acrylig rydw i’n ei ddefnyddio yn bennaf yn fy ngwaith celf, ar ganfas estynedig, ac rydw i hefyd wedi dechrau paentio ar ddarnau pren yn ddiweddar. Mae fy ngwaith celf yn seiliedig ar natur, boed yn haniaethol neu fel arall. Fy nod yw creu celf lle gall fy nghynulleidfa ymgolli ynddo a phrofi’r heddwch, y pleser a’r hapusrwydd, gan helpu i rannu positifrwydd i wella lles.”
Instagram a Facebook: @Artbyritapatel
Caiff gwaith Rita ei arddangos yma hyd ddiwedd Awst 2021.
Os hoffech ragor o wybodaeth, neu i brynu unrhyw un o’r darnau celf cysylltwch â Molly Lewis, Cydlynydd yr Oriel ar molly.lewis3@wales.nhs.uk