We are delighted to introduce our new Exhibition at University Hospital Llandough, Facing up to Dementia by NHS staff member and Artist, Joanna Waring.

Jo is a Dementia Research Nurse working in the Memory Team at University Hospital Llandough as part of Cardiff and Vale University Health Board and in her spare time focuses on her creative practice specialising in Printmaking.

In recognition of Dementia Action Week 2021, which will take place on 17th – 23rd May 2021, Jo has created a series of artworks for this exhibition that reflect her passion and dedication to working with people with dementia and their families over many years.

With help from her colleagues, patients and carers, Jo has created a very creative, humble and insightful exhibition.

Eggshell prints

The background of these prints has been made using broken eggshells on the printing plate. My idea is that they represent the broken communication that occurs when someone has dementia.

“Printmaking since 2014, I am a member of the Cardiff Print Workshop based at Chapter Arts in Canton, and my current practice is focused around exploring intaglio printmaking with occasional experiments with relief printing.

I make my printing plates from Tetrapaks. They are quite friable, so I can only obtain a small number of prints from each plate. If I re-use a plate, I try to add some detail like chine colle to make each print slightly different. I like to work out ideas as I go along, depending on what has sparked my imagination, and I have introduced collage into my more recent work.

The prints and collages in this exhibition are my response to working with people with dementia and their families over many years. Some are based on symptoms that people with dementia might experience – hallucinations of insubstantial figures or eyes watching them. Feelings of isolation are often prominent. I am also keen to express the positive aspects of living in the moment and facing each day in a positive way. Sadly, social contact has been severely impacted by the limitations of lockdown for people living with Dementia in the community, and this has had a negative effect on their quality of life.

More research into the causes, treatment and support for people with dementia and their families is essential.

I have included quotes from patients, carers, and my colleagues in the Memory Team. The quotes are collected from recent as well as past feedback from groups run by Team members.

I am very grateful to them all for generously taking the time to give me feedback, as it highlights the need for this specialised support through the dementia journey.

Enormous thanks to the Gallery Coordinator Molly May Lewis and the Arts for Health and Wellbeing Team as part of Cardiff & Vale Health Charity for making this exhibition possible”.

This exhibition will be on display in our Plaza Exhibition Space at University Hospital Llandough from May 12th – 27th June 2021.

If you require further information on any of the artworks on show, please contact Molly Lewis, the Gallery Coordinator on molly.lewis3@wales.nhs.uk Please visit http://www.alzheimers.org.uk to find out more about this year’s Dementia Action Week 2021.

Rydym yn falch iawn o gyflwyno ein Harddangosfa newydd yn y Plaza yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, Wynebu Dementia, gan Joanna Waring, sy’n aelod o staff yn y GIG ac yn Artist.

Mae Jo yn Nyrs Ymchwil Dementia sy’n gweithio gyda’r Tîm Cof yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, yn rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ac yn canolbwyntio ar ei hymarfer creadigol yn ei hamser hamdden, gan arbenigo mewn creu printiau.

I gydnabod Wythnos Gweithredu Ar Ddementia 2021, a gaiff ei chynnal rhwng 17 – 23 Mai 2021, mae Jo wedi creu cyfres o waith celf ar gyfer yr arddangosfa hon sy’n adlewyrchu ei brwdfrydedd a’i hymroddiad i weithio gyda phobl sydd â dementia a’u teuluoedd dros lawer o flynyddoedd.

Gyda chymorth gan ei chydweithwyr, cleifion a gofalwyr, mae Jo wedi creu arddangosfa hynod greadigol, diymhongar a chraff.

“Rydw i wedi bod yn creu printiau ers 2014, ac yn aelod o Weithdy Argraffu Caerdydd sydd wedi’i leoli yn Chapter yn Nhreganna, ac mae fy ymarfer presennol yn canolbwyntio ar archwilio argraffu intaglio gan arbrofi’n achlysurol gydag argraffu cerfweddol.

Rydw i’n creu fy mhlatiau argraffu o Tetrapaks. Maen nhw’n eithaf brau, felly dim ond ychydig o brintiau sy’n bosibl i’w creu o bob plât. Os ydw i’n ailddefnyddio plât, rydw i’n ceisio ychwanegu manylion fel chine colle i wneud pob print ychydig yn wahanol. Rydw i’n hoffi gweithio ar syniadau wrth i’r gwaith fynd rhagddo, gan ddibynnu ar beth sydd wedi tanio fy nychymyg, ac rydw i wedi cyflwyno collage i fy ngwaith mwy diweddar.

Y printiau a’r collages yn yr arddangosfa yw fy ymateb i weithio gyda phobl â dementia a’u teuluoedd dros y blynyddoedd. Mae rhai yn seiliedig ar symptomau y gallai pobl â dementia eu profi – rhithweledigaethau o ffigurau dychmygol neu lygaid yn eu gwylio. Mae teimlo’n ynysig yn rhywbeth sy’n dod i’r amlwg yn aml. Rydw i hefyd yn awyddus i fynegi agweddau cadarnhaol byw yn y foment ac wynebu bob dydd mewn ffordd gadarnhaol. Yn anffodus, mae cyswllt cymdeithasol wedi’i effeithio’n sylweddol gan gyfyngiadau’r cyfnod clo ar gyfer pobl sy’n byw â Dementia yn y gymuned, ac mae hyn wedi cael effaith negyddol ar ansawdd bywyd.

Mae rhagor o ymchwil i achosion, triniaeth a chefnogaeth i bobl sydd â dementia a’u teuluoedd yn hanfodol.

Rydw i wedi cynnwys dyfyniadau gan gleifion, gofalwyr, a fy nghydweithwyr yn y Tîm Cof. Mae’r dyfyniadau wedi’u casglu o adborth diweddar yn ogystal ag adborth blaenorol gan grwpiau o dan arweiniad aelodau o’r Tîm.

Rydw i’n ddiolchgar iawn i bob un ohonynt am roi o’u hamser i gynnig adborth, gan ei fod yn amlygu’r angen am y cymorth arbenigol hwn trwy gydol taith dementia.

Diolch o galon i Gydlynydd yr Oriel Molly May Lewis a’r Tîm Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles sy’n rhan o Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro am wneud yr arddangosfa hon yn bosibl.”

Bydd yr arddangosfa i’w gweld yn Ardal Arddangos y Plaza yn Ysbyty Athrofaol Llandochau rhwng 12 Mai – 27 Mehefin 2021.

Os hoffech ragor o wybodaeth am y gwaith celf sy’n cael ei arddangos, cysylltwch â Molly Lewis, Cydlynydd yr Oriel drwy e-bostio molly.lewis3@wales.nhs.uk Ewch i http://www.alzheimers.org.uk i gael rhagor o wybodaeth am Wythnos Gweithredu Ar Ddementia 2021 eleni.

Leave a Reply