The Arts for Health and Wellbeing Team, supported by Cardiff & Vale Health Charity were delighted to commission and support artist Marion Cheung to work on an innovative project, Threads of Memory, The Spaces Between Us, delivered to patients and staff at St. David’s Hospital, Cardiff.
The six week digital crafts project was delivered online at patient’s bedsides, with the assistance of Mental Health Matters staff and volunteers, and St. David’s Hospital clinical staff.

The project explored the benefits of online arts activities for patients with dementia, and how training staff in new arts skills could help them interact with patients in new, enjoyable and meaningful ways.
Staff were trained online to use digital arts and crafts, so that sessions could take place with patients where they could make paintings and magazine-collaged artworks throughout the project to create concertina art books with sounds.
Recordings of patients’ voices reading lines of a poem chosen by staff, which were linked to the artworks in the books and to touch capacitance sensors embedded within areas of the books, enabling patients’ voices and poetry readings to be heard when the pages were touched.
In addition to new digital and recording skills, staff were introduced to new craft activities. Claire Davies, who was involved in the project from Mental Health Matters said: “The range of activities added variety each week and enabled us to explore different techniques and materials that we had never used before.
“I particularly liked the use of teabags, coffee and salt and the beautiful effects this produced. From a patients’ perspective it was taking the familiar and utilising it in a completely different way, acknowledging the colours, aromas and colours in a new dimension. We have all taken on new learning and skills that we can hopefully lend to the next project.”
Some of the best outcomes for patients were linked to different ways of using materials (i.e. scraping paint across the paper with a piece of card); flooding the paper with water, dropping high pigmented paints (inks) into the surface, then adding salt crystals to make textures created high engagement levels.
Marion commented that she noticed a lot of conversation and laughter taking place during the workshop sessions even though she could not always see participants.
The project enabled staff to work with patients using everyday materials innovatively, with the application of digital to craft, new ideas surfaced. Patients enjoyed the process, providing a welcome distraction from the usual ward routines with opportunities to achieve something positive.
The artist involved in creating this project, Marion Cheung said: “This has been a very positive experience – I have learnt new strategies and ideas for art projects which support patients with varying degrees of Dementia.
“Claire and her team have given many insights into the challenges working on a busy, clinical ward and have shared how they overcome the difficulties which arise.
“Claire has been an ideal partner because she has a wealth of ideas which are inspiring me to develop new applications of digital craft. Volunteer, Sally Varrall’s dance background is also inspiring regarding digital craft textiles and the body. I would like to include these ideas in my art practice following the conversations we are having. The idea of producing art from object handling and creative writing has much potential, especially if combined in a process called ‘Timeslips’ (timeslips.org).”
Sally Varral, a new member to the Wellbeing team at St David’s Hospital said: “You’ve enabled us to connect with the patients in new ways!”
The project provided a foundation to continue conversations and to experiment through art and crafts, finding with the ‘likes’ and ‘dislikes’ of individual patients, opening new conversations and developing relationships. Staff have been introduced to basic digital skills which will enable them to design new art projects with patients over the long term, they are keen to embed the learning and new opportunities a new digital craft.
The Arts for Health and Wellbeing Team were delighted to support this successful, innovative project, and look forward to seeing further arts in health projects develop at St. David’s Hospital.

Above, a patient’s artwork before participating in the workshops and below, new skills – a collaged representation of landscape using scissors to create the forms

Cutting images from magazines enabled staff to have conversations with patients about their interests, likes and dislikes.
To find out more about this project, please email the Arts for Health and Wellbeing Team melanie.wotton@wales.nhs.uk http://www.marioncheung-artist.com/about

Roedd yn bleser gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro gomisiynu a chefnogi’r artist Marion Cheung i weithio ar brosiect arloesol, Threads of Memory, The Spaces Between Us, a gyflwynwyd i staff a chleifion yn Ysbyty Dewi Sant, Caerdydd.
Cyflwynwyd y prosiect crefftau digidol 6 wythnos o hyd ar-lein, gyda chymorth gan staff a gwirfoddolwyr Mental Health Matters, a staff clinigol Ysbyty Dewi Sant.

Roedd y prosiect yn archwilio manteision gweithgareddau celfyddydol ar-lein ar gyfer cleifion â dementia, a sut y gall hyfforddiant mewn sgiliau celfyddydol newydd helpu staff i ryngweithio â chleifion mewn ffyrdd newydd, dymunol ac ystyrlon.
Nodau’r Prosiect:
• Gwella ansawdd bywyd cleifion ar y ward trwy ymwneud â phrosesau celf arloesol.
• Rhoi sgiliau crefft ddigidol i staff er mwyn eu galluogi i ddylunio ac arwain prosiectau rhyngweithiol yn seiliedig ar ddiddordebau cleifion.
• Gwella ymarfer yr artist a deall sut i weithio o bell â chleifion ar ward glinigol.
Roedd sesiynau ar-lein yn cynnwys hyfforddiant i staff ar sut i ddefnyddio celfyddydau digidol a syniadau o ran crefftau, a sesiynau celf gyda chleifion i greu peintiadau a gwaith celf collage o gylchgronau a ychwanegir drwy gydol y prosiect at lyfrau celf consertina plyg.
Roedd un elfen ddiddorol yn cynnwys recordiadau o leisiau’r cleifion yn darllen llinellau o gerdd a ddewiswyd gan staff, a oedd yn gysylltiedig â’r gwaith celf, ynghyd â’r gallu i gyffwrdd â synwyryddion cynhwysiant a oedd wedi’u hymgorffori o fewn mannau o’r llyfrau, a oedd yn golygu y gellid clywed lleisiau’r cleifion a darlleniadau o gerddi pan gaent eu cyffwrdd.

Gweithiodd Marion ar y cyd â’r Cydlynydd Gweithgareddau Lles, Mental Health Matters, staff clinigol a gwirfoddolwyr Ysbyty Dewi Sant er mwyn gallu cyflwyno’r prosiect, yn aml wrth ymyl gwelyau cleifion, a hoffem ddiolch i bawb a wnaeth y prosiect hwn yn bosibl. Cyflwynwyd y sesiynau yn ystod cyfyngiadau COVID, ac fe lwyddodd partneriaid y prosiect i oresgyn nifer o heriau er mwyn sicrhau fod pawb yn gallu cael budd o gymryd rhan.
Roedd cleifion yn gallu cyfrannu, o dan arweiniad gofalus y gwirfoddolwyr, neu wylio yn unig a mwynhau’r sesiynau.
Yn ogystal â sgiliau digidol a recordio newydd, cafodd y staff eu cyflwyno i weithgareddau crefftau newydd:
“Roedd yr ystod o weithgareddau yn cynnig amrywiaeth bob wythnos gan ein galluogi i archwilio technegau a deunyddiau gwahanol nad oeddem erioed wedi’u defnyddio o’r blaen. Roeddwn i’n arbennig o hoff o’r defnydd o fagiau te, coffi a halen a’r effeithiau hardd roeddent yn eu cynhyrchu. O safbwynt cleifion, roedd yn golygu defnyddio’r hyn a oedd yn gyfarwydd a’i ddefnyddio mewn ffordd hollol wahanol, gan weld y lliwiau a’r aroglau mewn dimensiwn newydd”
Rydym ni i gyd wedi dysgu sgiliau newydd y gallwn ni eu defnyddio eto yn ystod y prosiect nesaf.”
– Claire Davies, Mental Health Matters
Roedd rhai o’r canlyniadau gorau i gleifion yn gysylltiedig â ffyrdd gwahanol o ddefnyddio deunyddiau (e.e. crafu paent ar draws y papur gyda darn o gerdyn); roedd gorchuddio’r papur mewn dŵr, gollwng paent pigment uchel (inciau) ar yr arwyneb, yna ychwanegu crisialau halen i wneud gweadau yn rhywbeth yr oedd gan y cleifion mawr ddiddordeb ynddo.
Dywedodd Marion ei bod hi wedi sylwi ar lawer o sgwrsio a chwerthin yn ystod y gweithdai, er nad oedd hi bob amser yn gallu gweld y rhai a oedd yn cymryd rhan drwy’r sgriniau amrywiol.
Gwnaeth y prosiect alluogi’r staff i weithio gyda chleifion gan ddefnyddio deunyddiau bob dydd yn arloesol, ac wrth ychwanegu’r elfen ddigidol i’r gwaith crefftau, fe arweiniodd at syniadau newydd. Gwnaeth cleifion fwynhau’r broses, gan dynnu eu sylw o’r drefn arferol ar y ward gyda chyfleoedd i gyflawni rhywbeth cadarnhaol.
-Safbwynt yr artist – Marion Cheung
“Mae hwn wedi bod yn brofiad cadarnhaol iawn – rydw i wedi dysgu strategaethau a syniadau newydd ar gyfer prosiectau celf sy’n cefnogi cleifion â Dementia o raddau amrywiol. Mae Claire a’i thîm wedi cynnig mewnwelediad i’r heriau a ddaw yn sgil gweithio ar ward glinigol brysur ac wedi rhannu sut maent yn goresgyn yr anawsterau sy’n eu hwynebu. Mae Claire wedi bod yn bartner perffaith am fod ganddi gyfoeth o syniadau sy’n fy ysbrydoli i i ddatblygu ffyrdd newydd o greu crefft ddigidol. Mae cefndir dawnsio Sally Varrall hefyd yn ysbrydoliaeth o ran tecstilau crefft ddigidol a’r corff. Hoffwn i gynnwys y syniadau hyn yn fy ngwaith celf yn dilyn y sgyrsiau hyn rydym yn eu cael. Mae gan y syniad o gynhyrchu celf o afael mewn gwrthrych ac ysgrifennu creadigol gymaint o botensial, yn enwedig os caiff ei gyfuno mewn proses a elwir yn ‘Timeslips’ (timeslips.org). “

“Rydych chi wedi ein galluogi i gysylltu â’r cleifion mewn ffyrdd newydd!” – Sally Varrall, aelod newydd o’r tîm Lles yn Ysbyty Dewi Sant
Roedd cyflwyno “The Owl and the Pussycat” yn gyfle gwych i archwilio cyfryngau cerddi gwahanol gyda chleifion, gan gefnogi’r gwaith o ddarllen cerddi, hyd yn oed ysgrifennu penillion byr a hefyd dathlu Diwrnod y Llyfr gydag amrywiaeth o lyfrau traddodiadol clasurol. Roedd y rhain yn cynnwys cerddi Nonsens Edward Lear, Alice in Wonderland, Winnie the Pooh, darluniau o glasuron Shakespeare, straeon Old Bear a llawer mwy, sydd wedi eu hatgoffa o atgofion hapus yn darllen straeon i’w plant, eu hoff awduron a beirdd ac atgofion o’u plentyndod. Recordiwyd un claf yn adrodd cerdd gan Edward Lear a ddysgodd pan oedd yn ifanc .

Gwnaeth y prosiect ddarparu sylfaen i barhau â sgyrsiau ac i arbrofi trwy waith celf a chrefft, gan ganfod ‘hoff bethau’ a ‘chas bethau’ cleifion unigol ac agor sgyrsiau newydd a datblygu cysylltiadau. Mae’r staff wedi’u cyflwyno i’r sgiliau digidol sylfaenol a fydd yn eu galluogi i ddylunio prosiectau celf newydd gyda chleifion yn yr hirdymor; maent yn awyddus i ymgorffori’r hyn a ddysgwyd a chreu cyfleoedd a chrefftau digidol newydd.
Roeddem yn falch iawn o gefnogi’r prosiect arloesol, llwyddiannus hwn ac edrychwn ymlaen at weld mwy o brosiectau celfyddydau mewn iechyd yn datblygu yn Ysbyty Dewi Sant.

Uchod, gweler gwaith celf un o’r cleifion cyn
cymryd rhan yn y gweithdai, ac isod gweler ei sgiliau newydd – darlun collage o dirwedd gan ddefnyddio siswrn i greu’r tirffurfiau

Roedd torri lluniau o gylchgronau yn galluogi staff i gael sgyrsiau gyda chleifion am eu diddordebau, hoff bethau a chas bethau.

Cysylltwch â Thîm y Celfyddydau, Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro i gael rhagor o wybodaeth
http://www.marioncheung-artist.com/about