The Arts for Health and Wellbeing Team are pleased to share their Annual Report for 2020.

The COVID-19 pandemic has had a profound impact on life in the UK with many sectors of society suffering adverse effects from the spread of the virus and the resulting social distancing regulations.

The pandemic has been an unprecedented challenge to the NHS; one of the most severe it has faced since it was founded in 1948. This is as true for Cardiff and Vale University Health Board (UHB) as it is for any NHS organisation.

Before COVID-19, great progress was being made in recognising the benefits of the creative arts to people’s physical health, mental health and overall sense of wellbeing in both community and hospital settings.

Sadly, the pandemic has acted as a barrier to some of the work which the Arts for Health and Wellbeing team was previously undertaking, as wards closed their doors to the artists who would once fill their patients’ days with joy, colour and song.

With that in mind, and the national context around the current state of the arts sector, it would have been easy for the Arts for Health and Wellbeing team to have become an afterthought, for both the Health Board which it serves and the organisations which provide its funding. Thankfully, this has not been the case.

In order to respond to some of the challenges presented by COVID-19, the Health Board has relied upon the resourcefulness of the Arts for Health and Wellbeing team and their insight into how the creative arts can contribute. The arts have been entrenched in the UHB’s plans to respond to the pandemic, and the whole team are unbelievably proud of what they have achieved despite the constraints placed upon them by the pandemic.

It goes without saying that the Arts for Health and Wellbeing team could not have achieved the wonderful things highlighted in the report without their supporters, friends and partners.  This support has enabled the team to continue working to improve the health of people in Cardiff and the Vale of Glamorgan through art, providing light, colour and comfort during the darkest of times. 

This hard work, generosity and support has been amazing and the Arts for Health and Wellbeing team are truly grateful.

Please take a look through the report and read about the projects that our supporters, friends and partners have worked with us to make a difference to the health and wellbeing of our population.

Mae Tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn falch o rannu ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2020.

Mae pandemig COVID-19 wedi effeithio’n sylweddol ar fywyd yn y DU gyda nifer o sectorau yn ein cymdeithas yn dioddef effeithiau andwyol o ganlyniad i ledaeniad y feirws a’r rheolau cadw pellter cymdeithasol a ddaeth yn ei sgil.

ADRODDIAD BLYNYDDOL

Mae’r pandemig wedi bod yn her i’r GIG na welwyd ei thebyg o’r blaen; un o’r rhai mwyaf difrifol a wynebwyd ers ei sefydlu ym 1948. Mae hyn yr un mor wir ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (BIP) ag unrhyw un o sefydliadau eraill y GIG.

Cyn COVID-19, gwnaed cynnydd rhagorol o ran cydnabod manteision y celfyddydau creadigol i iechyd corfforol, iechyd meddyliol ac ymdeimlad cyffredinol o les pobl yn y gymuned ac mewn ysbytai.

Yn anffodus, mae’r pandemig wedi bod yn rhwystr i rywfaint o’r gwaith roedd tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn ei wneud yn flaenorol, wrth i wardiau gau eu drysau i’r artistiaid a fyddai unwaith wedi bod yn llenwi diwrnodau eu cleifion â hapusrwydd, lliw a chân.

O gofio hynny, a’r cyd-destun cenedlaethol ynghylch sefyllfa bresennol sector y celfyddydau, byddai wedi bod yn hawdd i dîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles fod yn ôl-ystyriaeth i’r Bwrdd Iechyd mae’n ei wasanaethu a’r sefydliadau sy’n ei ariannu. Nid yw hynny wedi digwydd, diolch byth.

Er mwyn ymateb i rai o’r heriau a gyflwynwyd gan COVID-19, mae’r Bwrdd Iechyd wedi dibynnu ar ddyfeisgarwch aelodau o dîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles a’u mewnwelediad o ran sut y gall y celfyddydau creadigol gyfrannu. Mae’r celfyddydau wedi’u gwreiddio yng nghynlluniau’r BIP wrth ymateb i’r pandemig, ac mae’r tîm cyfan yn hynod falch o’r hyn sydd wedi’i gyflawni er gwaetha’r cyfyngiadau yn sgil y pandemig.

Afraid dweud na fyddai tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles wedi gallu cyflawni’r pethau gwych a amlygir yn yr adroddiad heb gefnogwyr, ffrindiau a phartneriaid.  Mae’r gefnogaeth hon wedi galluogi’r tîm i barhau i weithio er mwyn gwella iechyd pobl yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg trwy gelf, gan ddarparu golau, lliw a chysur yn ystod yr adegau mwyaf tywyll.

Mae’r gwaith caled, yr haelioni a’r gefnogaeth wedi bod yn anhygoel ac mae tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn wirioneddol ddiolchgar.

Cymerwch gipolwg ar yr adroddiad a darllenwch am y prosiectau mae ein cefnogwyr, ffrindiau a phartneriaid wedi bod yn rhan ohonynt er mwyn gwneud gwahaniaeth i iechyd a lles ein poblogaeth.

Leave a Reply