
We are delighted to present a new body of work by members of Cowbridge Art Society for our Spring Exhibition at Barry Hospital.
Many members have continued to create artworks through our lockdowns, and this exhibitions showcases a variety of genres, styles and approaches by talented local artists.
Cowbridge Art Society was founded in 1960, starting as an Art Appreciation group, with the aim:
“to promote and foster the appreciation of, and participation in the visual arts”
CAS continues to thrive, based in Cowbridge, in the Vale of Glamorgan. It has approximately 70 members, the majority of whom are artists ranging from beginner to highly accomplished.

In normal times, meetings are held on Thursday evenings with a comprehensive programme including demonstrations by professional artists, workshops and occasional social meetings. Currently this is all on hold for the time being, but the society continues to have a social media presence where any updates can be found.
The Cowbridge Art Society has also held annual exhibitions every year from 1961 until 2019. The COVID-19 pandemic prevented our 2020 Winter Exhibition, so this is our first exhibition since then. Hopefully this Spring Exhibition represents the beginnings of a return to some normality after the longest and darkest of winters.
Artists include Graham Anderson, Viv Aynsley, Wendy Broom, Sandra Anderson, Nick Hawksworth, Jaci Harries, Jackie Hughes, Roger Keller, Chi Lee, Andy Lloyd, Fran Lloyd, Gaye Lloyd, Penny Lloyd, Liz Pepper, Dave Phillips, Deirdre Schweitzer and Sandra Wintle.
Please find more information about CAS via their social media accounts @CowbridgeArtSociety or website www.cowbridgeartsociety.com
If you would like more information on the artworks on display, please contact melanie.wotton@wales.nhs.uk
The exhibition can also be viewed via our website: www.cardiffandvale.art/2021/03/30/cowbridge-art-society
Mae’n bleser gennym gyflwyno corff o waith newydd gan aelodau o Gymdeithas Gelf y Bont-faen ar gyfer ein Harddangosfa Gwanwyn yn Ysbyty’r Barri.
Mae nifer o aelodau wedi parhau i greu gwaith celf trwy gydol y cyfnodau clo, ac mae’r arddangosfa hon yn cyflwyno amrywiaeth o genres ac arddulliau gan artistiaid lleol talentog.
Sefydlwyd Cymdeithas Gelf y Bont-faen ym 1960, gan ddechrau fel grŵp Gwerthfawrogi Celf, gyda’r nod o:
“hyrwyddo a meithrin gwerthfawrogiad a chyfrannu at y celfyddydau gweledol”
Mae Cymdeithas Gelf y Bont-faen, sydd wedi’i lleoli yn y Bont-faen ym Mro Morgannwg, yn parhau i ffynnu. Mae ganddi tua 70 aelod, gyda’r mwyafrif ohonynt yn artistiaid sy’n amrywio o ddechreuwyr i artistiaid hynod fedrus.

Mewn cyfnod arferol, cynhelir cyfarfodydd ar nosweithiau Iau gyda rhaglen gynhwysfawr yn cynnwys arddangosiadau gan artistiaid proffesiynol, gweithdai a chyfarfodydd cymdeithasol achlysurol. Mae’r rhain wedi’u hatal am y tro, ond mae’r gymdeithas yn parhau i fod â phresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol lle gellir dod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf.
Mae Cymdeithas Gelf y Bont-faen hefyd wedi cynnal arddangosiadau blynyddol o 1961 hyd at 2019. Bu’n rhaid gohirio ein Harddangosfa Gaeaf yn 2020 o ganlyniad i bandemig COVID-19, felly dyma ein harddangosfa gyntaf ers hynny. Rydym yn gobeithio bydd yr Arddangosfa Gwanwyn yn cynrychioli dechrau’r cyfnod o ddychwelyd at rywfaint o normalrwydd ar ôl y gaeaf mwyaf hir a thywyll.
Ceir rhagor o wybodaeth am Gymdeithas Gelf y Bont-faen ar eu cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol, @CowbridgeArtSociety, neu ar eu gwefan, http://www.cowbridgeartsociety.com
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y gwaith celf sy’n cael ei arddangos, cysylltwch â melanie.wotton@wales.nhs.uk
Gellir hefyd gweld yr arddangosfa ar ein gwefan: http://www.cardiffandvale.art/2021/03/30/cowbridge-art-society
