We are delighted to have on display a series of bright and colourful Meadow paintings by local painter, Rachel Hannah.. Specialising in Acrylic paint on canvas, Rachel enjoys creating bright, colourful and textured canvases in a variety of shapes and sizes. With a degree in Fine Art from Aberystwyth University, Rachel has been a professional artist since 2016.

I am very excited to be exhibiting here at University Hospital Llandough again and hope that these meadow paintings, all painted between 2017 and 2021, can create an uplifting, happy and colourful environment for staff members at University Hospital Llandough. I had some really lovely feedback from my last exhibition outside the main Hearth Gallery in May 2019. The paintings in this exhibition capture my favourite meadow compositions and a wide range of colours. I hope my paintings bring happiness in the moment. Thank you and enjoy.”

-Rachel Hannah

nstagram: @artrachelhannah

Rachel’s work will be on display here until the 16th May 2021.

If you would like more information or to purchase any of the artworks please contact Molly Lewis, the Gallery Coordinator on: 07970 070153 or molly.lewis3@wales.nhs.uk Available Monday – Wednesday 9am-4pm.

Mae’n bleser gennym arddangos cyfres o beintiadau llachar a lliwgar o Ddolydd gan yr arlunydd lleol, Rachel Hannah.

Mae Rachel Hannah yn arlunydd dolydd o Gaerdydd ac yn weithiwr cymorth cymunedol, ac mae ganddi dri o blant bach. Ei harbenigedd yw paent acrylig ar ganfas, ac mae’n mwynhau creu canfasau llachar, lliwgar a gweadog mewn amrywiaeth o siapiau a meintiau. Mae Rachel, sydd â gradd mewn Celfyddyd Gain o Brifysgol Aberystwyth, wedi bod yn arlunydd proffesiynol ers 2016.

Rwy’n llawn cyffro i fod yn arddangos yma yn Ysbyty Athrofaol Llandochau eto, a gobeithiaf y gall y peintiadau hyn o ddolydd, y maent oll wedi’u peintio rhwng 2017 a 2021, greu amgylchedd bywiog, hapus a lliwgar ar gyfer aelodau staff yn Ysbyty Athrofaol Llandochau. Cefais adborth hyfryd o’m harddangosfa ddiwethaf y tu allan i brif Oriel yr Aelwyd ym mis Mai 2019. Mae’r peintiadau yn yr arddangosfa hon yn cynnwys fy hoff gyfansoddiadau o ddolydd ac ystod eang o liwiau. Rwy’n gobeithio y daw fy mheintiadau â hapusrwydd i bawb. Diolch yn fawr a mwynhewch.”

-Rachel Hannah

Instagram: @artrachelhannah

Caiff gwaith Rachel ei arddangos yma hyd 16 Mai 2021.

Os hoffech ragor o wybodaeth, neu i brynu unrhyw un o’r darnau celf cysylltwch â Molly Lewis, Cydlynydd yr Oriel ar: 07970 070153 neu molly.lewis3@wales.nhs.uk Ar gael o ddydd Llun i ddydd Mercher 9am-4pm.

Leave a Reply