An exhibition and affordable art sale celebrating a community who bonded in a time where connection through creativity became a lifeline, will take place at The Hearth Gallery from 22nd March – 25th April 2021 and online through the Arts for Health and Wellbeing website.
The artists involved in “Holding on to Hope” may have been socially distant but they were connected by a common thread. A love of art. The Beth Morris Workshops team met with students of all ages and abilities virtually throughout the pandemic bringing words, pictures and hope together. This collection of art works aim to comfort, inspire and be enjoyed.
The art sale will benefit the Cardiff & Vale Health Charity, Arts for Health and Wellbeing programme, which aims to improve lives through art in healthcare settings throughout Cardiff and the Vale of Glamorgan. The arts have a hugely positive effect, improving the experiences of patients, service users, carers, visitors and staff, as well as those who work in the arts themselves.
Beth Morris Workshops is a community art school in the heart of the city offering creative workshops for all. During the last year the art school has had to adapt and change but the essence of their daily business is exactly the same: to motivate and teach others to become their best creative selves.
The idea for this project came from an unusual source. As the new year was ringing in, and 2021 beckoned, a Cardiff resident changed their Christmas lights from ‘Noel’ to read ‘Hope’ This local art installation has now become a talking point in Cardiff, with many people walking by daily just to hold on to some hope.
The ‘Holding on to Hope’ project has been a therapeutic process for those involved. The online workshops have triggered all sorts of conversations. Completing the pieces has encouraged both talking, listening and most importantly looking. Inspiration is everywhere and this project has proved that creativity cannot be cancelled.
During the past year, many people have felt isolated. When Beth took her workshops online, she was determined to do more than just teach. Beth wanted to create a virtual community, where people felt a part of something. Combining creativity with genuine friendships is so important to improving mental wellbeing and reducing loneliness.
The workshops involved in the project cover drawing and painting, fashion illustration, landscape art and journaling. The students are adults, teenagers and also adults living with brain injuries. Some have been attending workshops for nearly four years. Some are complete beginners. All have been supported by Beth and local landscape artist Scott Euden to create art that means something to them. It is our hope that the pieces will mean something to you too…
All proceeds from the sale of the original art works supports the Arts for Health and Wellbeing programme which is part of Cardiff & Vale Health Charity (the official charity of Cardiff and Vale University Health Board.)
Click here to view all of the artwork and to make a purchase. Sales will continue until 19th May:
Beth Morris Workshops
Beth Morris Workshops is a community art school in the heart of the city offering creative workshops for all. During the last year the art school has had to adapt and change but the essence of the daily business is exactly the same: to motivate and teach others to become their best creative selves.
Beth and her team of tutors run over 15 weekly workshops for students of all abilities aged between 2-90! Beth Morris Workshops is also home to many guest artists who run skilled specialist workshops at weekends. There is a hope that these will be able to take place with distancing and safety measures later in 2021.
Beth also has a very popular school-holiday programme that offers engaging art workshops to children and young people. During the pandemic, these have been replaced with family lockdown art clubs via zoom – they’ve reached all corners of Great Britain and even some aspiring artists in Europe.
Beth started her community art school following a career as a senior fashion illustration lecturer, author and a break to be a Mum. Almost four years since founding the business, and Beth employs a team of freelance tutors, who together run in-person workshops and have embraced online learning. Beth recently won the Creative category at The Cardiff Life Awards. Her talented brain injury students have featured on BBC’s The One Show, and also exhibited in London for the last three years in a row!
It’s been tough at times, but even during this pandemic, Beth Morris Workshops has become a hub for wellbeing, creativity and socialising. It’s a simple concept, but it seems to work, both in real life and a virtual one! They will all keep holding on to hope, but draw and paint as they’re doing it!
Cynhelir arddangosfa ac arwerthiant gwaith celf fforddiadwy, sy’n dathlu cymuned a ddaeth ynghyd ar adeg pan oedd cysylltu trwy greadigrwydd yn amhrisiadwy, yn Oriel yr Aelwyd rhwng 22 Mawrth – 25 Ebrill 2021 ac ar-lein trwy wefan Celfyddydau ar gyfer Iechyd Lles.
Efallai bod yr artistiaid sy’n rhan o “Byw mewn Gobaith” wedi cadw pellter cymdeithasol, ond roeddent wedi’u cysylltu gan linyn cyffredin. Cariad at gelf. Bu tîm Gweithdai Beth Morris yn cwrdd â myfyrwyr o bob oedran a gallu dros y we trwy gydol y pandemig i ddod â geiriau, lluniau a gobaith ynghyd. Nod y casgliad o waith celf yw cysuro, ysbrydoli ac ennyn mwynhad.
Bydd yr arwerthiant celf o fudd i Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a’r rhaglen Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles, sy’n ceisio gwella bywydau trwy waith celf mewn lleoliadau gofal iechyd ledled Caerdydd a’r Fro. Mae’r celfyddydau wedi cael effaith hynod gadarnhaol, gan wella profiadau cleifion, defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr, ymwelwyr a staff, yn ogystal â’r rhai hynny sy’n gweithio ym maes y celfyddydau.
Mae Gweithdai Beth Morris yn ysgol gelf gymunedol yng nghanol y ddinas sy’n cynnig gweithdai creadigol i bawb. Yn ystod y llynedd, bu’n rhaid i’r ysgol gelf addasu a newid ond mae hanfod eu busnes arferol union yr un fath: ysgogi ac addysgu eraill i fod mor greadigol â phosibl.
Daeth y syniad ar gyfer y prosiect hwn o ffynhonnell anarferol. Wrth groesawu’r flwyddyn newydd, newidiodd un o drigolion Caerdydd ei oleuadau Nadolig o ‘Noel’ i’r gair ‘Gobaith’. Mae’r gwaith celf lleol hwn bellach wedi dod yn destun sylw yng Nghaerdydd, gyda nifer o bobl yn cerdded heibio’n ddyddiol i deimlo gobaith.
Mae’r prosiect ‘Byw mewn Gobaith’ wedi bod yn broses therapiwtig ar gyfer y rhai hynny a oedd yn rhan ohono. Mae’r gweithdai ar-lein wedi ysgogi pob math o sgyrsiau. Mae cwblhau’r darnau wedi annog pobl i siarad, gwrando ac yn bwysicaf oll, edrych. Mae ysbrydoliaeth ym mhob man ac mae’r prosiect hwn wedi profi na ellir canslo creadigrwydd.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae nifer o bobl wedi teimlo’n ynysig. Pan ddechreuodd Beth ei gweithdai ar-lein, roedd hi’n benderfynol o wneud mwy nag addysgu yn unig. Roedd Beth eisiau creu cymuned rithiwr, lle’r oedd pobl yn teimlo’n rhan o rywbeth. Mae cyfuno creadigrwydd gyda chyfeillgarwch go iawn mor bwysig i wella lles meddyliol a lleihau unigrwydd.
Roedd y gweithdai a oedd yn rhan o’r prosiect yn cwmpasu darlunio a phaentio, dylunio ffasiwn, tirlunio a newyddiadura. Roedd y myfyrwyr yn oedolion, arddegwyr a hefyd yn oedolion yn byw gydag anafiadau i’r ymennydd. Mae rhai wedi bod yn mynd i’r gweithdai ers bron i bedair blynedd. Mae rhai yn ddechreuwyr llwyr. Maen nhw i gyd wedi cael cefnogaeth Beth a’r artist tirlunio lleol, Scott Euden, i greu celf sy’n golygu rhywbeth iddyn nhw. Ein gobaith ni yw y bydd y darnau hyn yn golygu rhywbeth i chi hefyd…
Bydd yr holl elw o werthu’r darnau celf gwreiddiol o fudd i’r rhaglen Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles sy’n rhan o Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro (elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro).
Gallwch weld yr arddangosfa a phrynu darn o gelf trwy wefan Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles. Bydd y gwerthiant ar-lein yn parhau hyd at 19 Mai
Gweithdai Beth Morris
Mae Gweithdai Beth Morris yn ysgol gelf gymunedol yng nghanol y ddinas sy’n cynnig gweithdai creadigol i bawb. Yn ystod y llynedd, bu’n rhaid i’r ysgol gelf addasu a newid ond mae hanfod y busnes arferol union yr un fath: ysgogi ac addysgu eraill i fod mor greadigol â phosibl.
Mae Beth a’i thîm o diwtoriaid yn cynnal dros 15 o weithdai bob wythnos ar gyfer myfyrwyr o bob gallu rhwng 2 a 90 mlwydd oed! Mae Gweithdai Beth Morris hefyd yn gartref i nifer o artistiaid gwadd sy’n cynnal gweithdai arbenigol ar benwythnosau. Mae gobaith y bydd y rhain yn gallu cael eu cynnal gyda chamau diogelwch a chadw pellter yn hwyrach yn 2021.

Mae hefyd gan Beth raglen boblogaidd iawn yn ystod gwyliau’r ysgol sy’n cynnig gweithdai celf diddorol i blant a phobl ifanc. Yn ystod y pandemig, mae clybiau celf cyfnod clo i deuluoedd dros zoom wedi cymryd eu lle – maent wedi cyrraedd pob cornel o’r Deyrnas Unedig yn ogystal â rhai darpar artistiaid yn Ewrop hyd yn oed.
Dechreuodd Beth ei hysgol gelf gymunedol yn dilyn gyrfa fel uwch-ddarlithydd dylunio ffasiwn, awdur a seibiant i fod yn Fam. Bron i bedair blynedd ers sefydlu’r busnes, mae Beth yn cyflogi tîm o diwtoriaid llawrydd, sy’n cynnal gweithdai wyneb yn wyneb ac wedi croesawu addysgu ar-lein. Yn ddiweddar, enillodd Beth gategori Creadigol The Cardiff Life Awards. Mae ei myfyrwyr talentog sydd ag anafiadau i’r ymennydd wedi ymddangos ar raglen The One Show ar y BBC, a hefyd wedi arddangos eu gwaith yn Llundain yn ystod y tair blynedd diwethaf!
Mae wedi bod yn heriol ar adegau, ond hyd yn oed yn ystod y pandemig, mae Gweithdai Beth Morris wedi dod yn ganolfan ar gyfer lles, creadigrwydd a chymdeithasu. Mae’n gysyniad syml, ond mae i weld yn gweithio, mewn bywyd go iawn ac mewn bywyd rhithwir! Byddan nhw i gyd yn parhau i fyw mewn gobaith, ac yn darlunio a phaentio wrth wneud hynny!
One thought on “Holding on to Hope -Exhibition by Beth Morris Workshops”