As part of Eating Disorder Awareness Week this March, we are delighted to be showcasing in the Plaza Space and our Virtual Gallery, the Creative Insights exhibition which celebrates the launch of the new Cardiff and Vale Adult Eating Disorders Service Website.

Over the last year a group of people with lived experiences, artists, film-makers, counsellors, psychologists and a dietitian came together in collaboration with web designer Rhys Welsh from Web Design Cardiff, to develop a new website for Cardiff and Vale Adult Eating Disorders Service (C&VAEDS). The psychologists and dietician involved in this project all work within C&VAEDS and consulted regularly with the team many of whom have had experience of receiving treatment from the service.

The group met initially in Severn Road Community Centre, but when lockdown happened, successfully transferred the creative sessions to an online platform. They met weekly and worked alongside facilitators Katja Stiller and Sarah Featherstone to relax with mindfulness, find their creative flow in writing and drawing and to share their experiences and positive coping mechanisms. During each session the group discussed a theme centred on health and wellbeing and produced a piece of creative writing that reflected their own experiences for the website. The sessions concluded with participants creating a drawing or painting on the theme. As individuals were working from home, packs of art materials were sent out to them so there was the option to use a range of materials to create work. The pieces created varied in medium from photography to text art and line drawings such as the beautiful butterfly logo. The group formed a special bond, supporting each other through lockdown. The participants reported that they were grateful to have something positive to focus on in a safe space, and to ‘give something back’.

“The overall experience has been truly remarkable for me. I have made some genuine friendships and have met people that make me feel that I am able to be myself. These people continue to inspire me daily. Each and every member of the team are really extraordinary people and I deem myself exceptionally lucky and fortunate to have had this opportunity.”

-Participant

The artwork within this exhibition are the results of these sessions and have been used within the design of the new website, creating a user friendly, engaging and informative website for any individual seeking support, advice, insights and expertise.

The creative sessions and artistic contribution was supported by Cardiff & Vale Health Charity and the website was supported by Tanio.

View the new Cardiff and Vale Adult Eating Disorders Service Website here

https://www.eatingdisorderscardiff.co.uk/

“Lockdown has been hard for people with eating disorders. You feel a loss of control because your whole routine is disrupted. There’s a sense of panic about not being able to access the certain things that help you cope, and then there is also the isolation. Coming to these sessions every week was really supportive and helpful as they provided a structure to our week. By talking, we inspired each other and created our art. It can be daunting coming to groups at first, but we supported each other, we maintained boundaries to make sure we didn’t enhance our current individual struggles and we looked out for each other. We felt able to take risks in expressing ourselves within the safe space and we were able to be ourselves. Working on Zoom meant we didn’t have to worry about getting anywhere, we could be relaxed in the comfort of our own home. It has been great to be able to help our local NHS Health Board, Cardiff and Vale University Health Board, by creating the content for this website. We know that it will bring much needed support to those that need it.

-Artists: Hollie- May, Tammy Collins, Judith, Sarah B, RY, James D, Charlotte S

Dr Debbie Woodward, Dr Menna Jones and Annette MacLean from the Eating Disorders Specialist Treatment Team were in regular contact with the Creative Insight group to discuss their progress and answer any questions. Rhys Welsh from Web Design Cardiff listened to the ideas of the team and built the new website using their artwork.

“The shared experience of lockdown brought the group closer together. This pandemic is unprecedented and has created fear, many struggle with sleep and feel stressed, taking control over the creative process has increased the participant’ s confidence and self-esteem and given us all a meaningful focus.

All of the participants understand what it is like to live with an eating disorder. The work they create is insightful and of a very high standard and will reach out to many seeking help.

We are looking forward to launching the website and to exhibit the work in the Hearth Gallery Plaza Exhibition space at University Hospital Llandough to mark eating disorder awareness week this March 2021.”

-Dr Debbie Woodward

Yn rhan o’r Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta ym mis Mawrth, rydym yn falch iawn o fod yn rhan o arddangosfa Mewnwelediad Creadigol yr ardal Plaza sy’n dathlu lansiad Gwefan Gwasanaeth Anhwylderau Bwyta i Oedolion newydd Caerdydd a’r Fro.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae grŵp o bobl â phrofiadau unionyrchol, artistiaid, gwneuthurwyr ffilm, cwnselwyr, seicolegwyr a dietegydd wedi dod ynghyd i gydweithio â Rhys Welsh, dylunydd gwe o Web Design Cardiff, i ddatblygu gwefan newydd ar gyfer Gwasanaeth Anhwylderau Bwyta i Oedolion Caerdydd a’r Fro (C&VAEDS). Mae’r seicolegwyr a’r dietegydd sy’n rhan o’r prosiect i gyd yn gweithio o fewn C&VAEDS ac wedi ymgynghori’n gyson â’r tîm, gyda nifer ohonynt wedi cael profiad o dderbyn triniaeth gan y gwasanaeth.

Gwnaeth y grŵp gyfarfod yn gyntaf yng Nghanolfan Gymunedol Severn Road, ond pan ddechreuodd y cyfnod clo, bu’n rhaid trosglwyddo’r sesiynau creadigol i lwyfan ar-lein a digwyddodd hynny yn llwyddiannus iawn. Roeddent yn cwrdd yn wythnosol ac yn gweithio ochr yn ochr â’r hwyluswyr Katja Stiller a Sarah Featherstone i ymlacio gan ddefnyddio ymwybyddiaeth ofalgar, canfod eu llif creadigol wrth ysgrifennu a darlunio, a rhannu eu profiadau a mecanweithiau ymdopi cadarnhaol. Yn ystod pob sesiwn, bu’r grŵp yn trafod thema a oedd yn canolbwyntio ar iechyd a lles ac yn creu darn o waith ysgrifennu creadigol a oedd yn adlewyrchu eu profiadau eu hunain ar gyfer y wefan. Daeth y sesiynau i ben gyda’r cyfranwyr yn creu darlun neu baentiad ar y thema. Gan fod unigolion yn gweithio gartref, anfonwyd pecynnau o ddeunyddiau celf atynt fel bod ganddynt yr opsiwn o ddefnyddio ystod o ddeunyddiau i greu gwaith. Roedd y darnau a grëwyd yn amrywio o ran eu cyfrwng o ffotograffiaeth i gelf testun, a darluniau llinell megis y logo pili-pala hardd. Gwnaeth y grŵp ffurfio perthynas arbennig, gan gefnogi ei gilydd trwy gydol y cyfnod clo. Yn ôl y cyfranwyr, roeddent yn ddiolchgar fod ganddynt rywbeth cadarnhaol i ganolbwyntio arno mewn man diogel, ac i ‘roi rhywbeth yn ôl’.

“Mae’r profiad cyffredinol wedi bod yn rhyfeddol i fi. Rydw i wedi creu ffrindiau am oes a chwrdd â phobl sy’n gwneud i mi deimlo fy mod i’n gallu bod yn fi fy hun. Mae’r bobl yma’n parhau i fy ysbrydoli bob dydd. Mae pob un aelod o’r tîm yn bobl gwirioneddol anhygoel ac rydw i’n ystyried fy hun yn eithriadol o lwcus a ffodus o fod wedi cael y cyfle yma.”

– Cyfranogwr

Y gwaith celf yn yr arddangosfa hon yw ffrwyth llafur y sesiynau hyn a defnyddiwyd y gwaith fel rhan o ddyluniad y wefan newydd, gan greu gwefan sy’n hawdd i’w defnyddio, yn ymgysylltu ac yn ddefnyddiol i unrhyw unigolyn sy’n chwilio am gefnogaeth, cyngor, mewnwelediad ac arbenigedd.

Cefnogwyd y sesiynau creadigol a’r cyfraniad artistig gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Tanio oedd yn gyfrifol am y wefan.

Ewch i’r Wefan Gwasanaeth Anhwylderau Bwyta i Oedolion Caerdydd a’r Fro newydd yma

https://www.eatingdisorderscardiff.co.uk/

“Mae’r cyfnod clo wedi bod yn anodd i bobl sydd ag anhwylderau bwyta. Rydych chi’n teimlo eich bod chi’n colli rheolaeth gan fod newid wedi bod i’ch trefn arferol. Ceir teimlad o banig ynghylch peidio gallu cael mynediad at rai pethau sy’n eich helpu chi i ymdopi, yn ogystal â’r teimlad o unigrwydd. Roedd dod i’r sesiynau hyn bob wythnos yn ddefnyddiol ac yn cynnig cefnogaeth gan eu bod yn rhoi strwythur i’n hwythnos. Drwy siarad, roeddem yn ysbrydoli ein gilydd ac yn creu ein gwaith celf. Mae dod i grwpiau fel hyn yn gallu codi ofn i ddechrau, ond gwnaethom gefnogi ein gilydd, gosod ffiniau er mwyn gwneud yn siŵr nad oeddem yn dyfnhau ein trafferthion personol, a gofalu am ein gilydd. Roeddem yn teimlo’n rhydd i gymryd risgiau a mynegi ein hunain o fewn y man diogel, a bod yn ni ein hunain. Roedd gweithio ar Zoom yn golygu nad oedd rhaid i ni boeni am fynd i unrhyw le; roeddem ni’n gallu ymlacio yng nghyfforddusrwydd ein cartrefi ein hunain. Mae wedi bod yn wych gallu helpu ein Bwrdd Iechyd GIG lleol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, trwy greu cynnwys ar gyfer y wefan. Rydym yn gwybod y bydd yn dod â chefnogaeth i’r rhai sydd ei dirfawr angen.”

-Artistiaid: Hollie- May, Tammy Collins, Judith, Sarah B, RY, James D, Charlotte S

Roedd Dr Debbie Woodward, Dr Menna Jones ac Annette MacLean o’r Tîm Triniaeth Arbenigol Anhwylderau Bwyta mewn cysylltiad cyson â’r grŵp Mewnwelediad Creadigol i drafod eu cynnydd ac i ateb unrhyw gwestiynau.Gwnaeth Rhys Welsh o Web Design Cardiff wrando ar syniadau’r tîm ac adeiladu’r wefan newydd gan ddefnyddio eu gwaith celf.

“Gwnaeth y profiad cyffredin o’r cyfnod clo ddod â’r grŵp yn agosach at ei gilydd.Mae’r pandemig yn sefyllfa ddigynsail ac wedi creu ofn, gyda nifer yn cael trafferthion yn cysgu ac yn teimlo straen. Mae cymryd rheolaeth dros y broses greadigol wedi cynyddu hyder a hunan-barch y cyfranwyr ac wedi rhoi ffocws ystyrlon i ni gyd.

Mae’r holl gyfranwyr yn deall sut beth yw byw gydag anhwylder bwyta. Mae’r gwaith maen nhw’n ei greu yn graff ac o ansawdd uchel iawn a bydd yn ymgysylltu â nifer o bobl sy’n chwilio am gymorth.

Rydym yn edrych ymlaen at lansio’r wefan ac i arddangos y gwaith yn Oriel yr Aelwyd yn ardal Arddangosfa’r Plaza yn Ysbyty Athrofaol Llandochau i nodi wythnos ymwybyddiaeth anhwylderau bwyta ym mis Mawrth 2021.”

-Dr Debbie Woodward

Leave a Reply