
Much respected and admired Cardiff Artist, Jacqueline Alkema, has kindly donated four paintings to Arts for Health and Wellbeing programme at Cardiff and Vale University Health Board.
The paintings were created during the Covid-19 pandemic and are a response to the wonderful care and support Jacqueline received while a patient at University Hospital Llandough.
Jacqueline Alkema:
‘’I have a long term interest in women’s portraiture often exploring the identity of, seemingly anonymous women, giving them an iconic status.
“The NHS is the backbone of this country and I would like to give thanks to everyone working in this organisation from doctors to nurses to cleaners by donating some of my artwork.
“The four portraits I have donated were produced after I was admitted to the Emergency Unit at University Hospital Llandough and also through having treatment at The Breast Centre and the X-ray department.’’
The art is currently on display at the Health Board’s Headquarters at Woodland House.
Jacqueline Alkema http://www.jacquelinealkema.co.uk

Mae artist uchel ei pharch a’i hedmygedd o Gaerdydd, Jacqueline Alkema, wedi cyfrannu pedwar paentiad i’r rhaglen Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Cafodd y paentiadau eu creu yn ystod pandemig Covid-19 ac maent yn ymateb i’r gofal a’r gefnogaeth hyfryd a gafodd Jacqueline pan oedd hi’n glaf yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.
Jacqueline Alkema:
“Mae gen i ddiddordeb hirdymor mewn portreadau o fenywod sy’n aml yn archwilio hunaniaeth menywod sy’n ymddangos yn anhysbys, gan roi statws eiconig iddynt.
“Y GIG yw asgwrn cefn y wlad hon a hoffwn ddiolch yn fawr i bawb sy’n gweithio yn y sefydliad, o feddygon i nyrsys i lanhawyr, drwy gyfrannu darnau o fy ngwaith celf.
“Cafodd y pedwar portread rydw i wedi eu cyfrannu eu cynhyrchu ar ôl i mi gael fy nerbyn i’r Uned Achosion Brys yn Ysbyty Llandochau a hefyd yn sgil fy nhriniaeth yng Nghanolfan y Fron a’r adran pelydr-x.”
Jacqueline Alkema http://www.jacquelinealkema.co.uk