“With Thanks” – “Gyda Diolch”

We were delighted to reopen the Gallery doors again with this inspiring and wonderful exhibition that focuses on the importance of Art for our Health and Wellbeing and reflects on the continuous dedication of our NHS workers.

During Covid-19 we have seen a cultural shift in the way we see art and creativity within our community. Many people have nurtured their own artistic practice in lockdown and others have used it to learn new creative skills or use creativity in a way to show immense gratitude to those around us.

At Cardiff and Vale University Health Board we believe strongly in the ability of the Creative Arts to improve the everyday lives and wellbeing of our staff, patients and visitors and so we are delighted to be opening the Gallery again with this reflective exhibition.

This exhibition featured a wonderful collection of paintings, drawings, photography and textiles created from community response artworks and projects, donated pieces, commissions, and school projects.    

Rydyn ni wrth ein bodd yn ailagor drysau’r Oriel eto gyda’r arddangosfa ysbrydoledig, wych hon, sy’n canolbwyntio ar bwysigrwydd Celf i’n Hiechyd a’n Lles ac sy’n myfyrio ar ymroddiad parhaus ein gweithwyr GIG.

Yn ystod Covid-19, bu newid diwylliannol i’r ffordd rydyn ni’n ystyried celf a chreadigrwydd yn ein cymuned. Mae llawer o bobl wedi meithrin eu cyneddfau artistig eu hunain yn ystod y cyfnod cloi ac mae eraill wedi defnyddio’r amser i ddysgu sgiliau creadigol newydd neu ddefnyddio creadigrwydd i gyfleu diolch mawr iawn i’r bobl o’n cwmpas.

Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro credwn yn gryf yng ngallu’r Celfyddydau Creadigol i wella bywydau bob dydd a lles ein staff, ein cleifion a’n hymwelwyr. Mae’n bleser gennym, felly, allu ailagor yr Oriel gyda’r arddangosfa adfyfyriol hon. 

Mae’r arddangosfa hon yn cynnwys casgliad gwych o baentiadau, lluniadau, ffotograffau a thecstilau wedi eu creu drwy brojectau ac ymatebion cymunedol, neu’n ddarnau wedi eu cyfrannu neu eu comisiynu neu’n rhan o brojectau ysgol. 

Rydyn ni hefyd wedi lansio ein Oriel Rithwir newydd yn rhan o’n rhaglen gelfyddydau, sy’n prysur ehangu. Bydd ein horiel rithwir ar gael ar ein gwefan, gan alluogi pawb i fwynhau’r arddangosfeydd a ddarparwn yn Oriel yr Aelwyd a mwy.   

Rydyn ni’n estyn croeso i chi ddod i ymweld â’n gwefan gelf i weld mwy o’r hyn rydyn ni wedi bod yn ei wneud ers dechrau’r flwyddyn a sut mae ein projectau a’n mentrau celf wedi bod yn gweithredu yn ystod y cyfnod hwn. Ewch i www.caerdyddandvale.art neu e-bostiwch molly.lewis3@wales.nhs.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau.

One thought on ““With Thanks” – “Gyda Diolch”

Leave a Reply