The Black Lives Matter movement has highlighted to us all the issues and barriers faced everyday here and abroad by our Black, Asian and Minority Ethnic (BAME) patients, colleagues and friends. It has also drawn our attention to the many ways in which we need to continue to progress and change to remove these barriers.

We recognise that issues exist here in Cardiff and the Vale of Glamorgan, not just elsewhere and we stand in support of our BAME colleagues and against all racism, and prejudice or discriminatory behavior.

Staff from the BAME community play such a fundamental part in, and make a vital contribution to, the NHS in Cardiff and the Vale of Glamorgan across general practice, community, mental health, our hospital services, and across commissioning. We are very proud of their work and commitment as part of the wider NHS team. Without this contribution, we would simply not be able to offer the level of patient care and services which patients in need. We understand the importance of leading by example to embed positive change and retain the confidence and trust of our BAME colleagues.

We want to commission art projects to provide messages of support, respect and to reaffirm our commitment to continue to work with our staff, colleagues and provide support as part of our collective commitment to equality, diversity and inclusion for all, not just while this is so prominent in the media, but every day.

If you are interested in producing work please contact Simone Joslyn, Head of Arts on simone.joslyn@wales.nhs.uk with your proposal including costs.

We actively encourage artists from the BAME community to apply


Mae’r mudiad Mae Bywydau Du o Bwys wedi tynnu ein sylw at yr holl broblemau a rhwystrau a wynebir bob dydd yma a thramor gan ein cleifion, ein cydweithwyr a’n ffrindiau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME). Mae hefyd wedi tynnu ein sylw at y ffyrdd niferus y mae angen i ni barhau i symud ymlaen a newid i ddileu’r rhwystrau hyn.

Rydym yn cydnabod bod materion yn bodoli yma yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, nid mewn mannau eraill yn unig ac rydym yn cefnogi ein cydweithwyr BAME ac yn erbyn pob hiliaeth, a rhagfarn neu ymddygiad gwahaniaethol.

Mae staff o’r gymuned BAME yn chwarae rhan mor sylfaenol yn y GIG yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, ac yn gwneud cyfraniad hanfodol iddo, ar draws ymarfer cyffredinol, cymunedol, iechyd meddwl, ein gwasanaethau ysbyty, ac ar draws comisiynu. Rydym yn falch iawn o’u gwaith a’u hymrwymiad fel rhan o dîm ehangach y GIG. Heb y cyfraniad hwn, ni fyddem yn gallu cynnig lefel y gofal a’r gwasanaethau i gleifion y mae cleifion ei hangen.  Rydym yn deall pwysigrwydd arwain drwy esiampl i ymgorffori newid cadarnhaol a chadw hyder ac ymddiriedaeth ein cydweithwyr BAME.

Rydym am gomisiynu projectau celf i ddangos negeseuon o gefnogaeth, parch ac ailddatgan ein hymrwymiad i barhau i weithio gyda’n staff, ein cydweithwyr a rhoi cymorth fel rhan o’n cyd-ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i bawb, nid dim ond pan mae hyn yn cael ei amlygu yn y cyfryngau, ond bob dydd.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cynhyrchu gwaith, cysylltwch â Simone Joslyn, Pennaeth y Celfyddydau ar simone.joslyn@wales.nhs.uk gyda’ch cynnig gan gynnwys costau.

Rydym yn annog artistiaid o’r gymuned BAME i wneud cais

Leave a Reply