Sgroliwch i lawr am Gymraeg
Share a Life is a growing collection of portraits and stories displaying the spectrum of homelessness throughout Wales from those who have experienced it. Through this project, we are offering an opportunity to break down the stigma and barriers surrounding homelessness.
Texas artist Katherine Holmes migrated to Cardiff in 2014 after graduating with a BA Hons in Fine Art in Studio Art from Stephen F. Austin State University in 2014. Over the last five years in Cardiff, Katherine has been working alongside the homeless and socially isolated facilitating art classes at the TAVS Centre on City Road and various Council hostels. Her works range from small water colour pieces to large oil paintings that have been displayed in galleries across the world. She is currently studying to receive a Masters of Art Psychotherapy from University of South Wales in 2020.
Her current project Share a Life seeks to honour and share the stories of those who have experienced homelessness. Over the span of three years she will pair up with various hostels and clients across Cardiff and Swansea to make art alongside individuals bringing personality and character into customised portraits.
Phil Ellis is part of the Glenwood Faith Community based in Llanedeyrn. Before his retirement he taught languages for 35 years in Ysgol Gyfun Rhydfelen, a Welsh-medium secondary school near Pontypridd.
Phil has written the English and Welsh versions of the text. He has taken each individual’s words from their interviews to give us a glimpse into their lives. His unique gift and beautiful way of sharing each story alongside each portrait encourages us to think about the complexities and the issues that surround homelessness. Phil is creatively opening our eyes to their story and to the value and worth of each individual.
Rhannu Bywyd
Mae Rhannu Bywyd yn gasgliad cynyddol o bortreadau a straeon sy’n tynnu sylw at ddigartrefedd yng Nghymru o safbwynt y sawl sydd wedi ei brofi. Drwy’r prosiect hwn rydym yn cynnig cyfle i chwalu’r stigma a’r rhwystrau sy’n ymwneud â digartrefedd.
Symudodd yr artist Katherine Holmes o Texas i Gaerdydd yn 2014 ar ôl graddio gyda BA Anrh. mewn Celf Gain Mewn Celf Stiwdio ym Mhrifysgol Talaith Stephen F. Austin yn 2014. Dros y 5 mlynedd ddiwethaf yng Nghaerdydd, mae Katherine wedi bod yn gweithio gyda’r digartref a’r sawl sydd wedi’u hallgáu’n gymdeithasol gan hwyluso dosbarthiadau yn y Ganolfan TACS yn Heol y Plwca ac amrywiaeth o hosteli’r Cyngor. Mae ei gwaith yn amrywio o ddarnau dyfrlliw bach i baentiadau olew mawr ac maent wedi’u harddangos mewn orielau ym mhedwar ban byd. Ar hyn o bryd mae hi’n astudio Gradd Meistr mewn Seicotherapi Celf ym Mhrifysgol De Cymru, y bydd yn ei chwblhau yn 2020.
Mae ei phrosiect presennol, Rhannu Bywyd, yn ceisio anrhydeddu a rhannu straeon y sawl sydd wedi profi digartrefedd. Dros y cyfnod o dair blynedd bydd yn gweithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o hosteli a chleientiaid yng Nghaerdydd ac Abertawe i greu celf ochr yn ochr ag unigolion, gan ddod â phersonoliaeth a chymeriad i mewn i’r portreadau.
Mae Phil Ellis yn aelod o Gymuned Ffydd Glenwood yn Llanedern. Cyn iddo ymddeol bu’n addysgu ieithoedd am 35 mlynedd yn Ysgol Gyfun Rhydfelen, ysgol uwchradd Gymraeg ger Pontypridd.
Phil ysgrifennodd y fersiynau Cymraeg a Saesneg o’r testun. Mae wedi cymryd geiriau’r unigolion o’u cyfweliadau i roi cip i ni ar eu bywydau. Mae ei ddawn unigryw a’i ddull hyfryd o rannu pob stori ochr yn ochr â phortread yn ein hannog i feddwl am y cymhlethdodau a’r problemau sy’n gysylltiedig â digartrefedd. Mae Phil yn agor ein llygaid yn greadigol i’w straeon ac i werth pob unigolyn.