Mae tîm Celfyddydau Iechyd a Lles BIP Caerdydd a’r Fro yn falch o groesawu Molly May Lewis fel cydlynydd newydd Oriel yr Aelwyd yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.

Mae Molly’n wneuthurwr printiau ac artist cain o ddydd i ddydd ac mae wedi gweithio gyda’r tîm yn y gorffennol fel rhan o ddathliadau’r GIG yn 70 y bwrdd iechyd ac yng ngorymdaith PRIDE Cymru yn 2018.

NHS@70 MAIN CELEBRATION EVENT AT LLANDOUGH HOSPITAL
Molly May Lewis

Roedd yn un o nifer o ymgeiswyr cryf iawn a gyfwelwyd am y swydd, a gynhyrchodd lefel uchel iawn o ddiddordeb ar ôl cael ei hysbysebu.

Gwnaeth cais Molly argraff oherwydd dangosodd ddealltwriaeth gynhwysfawr o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a sut mae rhaglen y celfyddydau’n cyfrannu at gyflawni rhai o nodau canolog y BIP.

Adeiladwyd ac agorwyd Oriel yr Aelwyd yn 2015 ac mae’r arddangosfeydd wedi cael eu cydlynu gan Melanie Wotton byth ers hynny. Diolch i gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae Melanie wedi cael y cyfle i fynd â rhaglen gelfyddydau’r BIP i mewn i’r gymuned i ganolbwyntio ar fynd i’r afael â materion fel allgáu cymdeithasol ac adeiladu cymunedau cefnogol, creadigol gyda’r nod o atal pobl rhag cael eu derbyn i’r ysbyty.

Yn ystod cyfnod Melanie yn y swydd, mae Oriel yr Aelwyd wedi mynd o nerth i nerth, a hwn oedd y llwyfan ar gyfer lansio tîm celfyddydau’r BIP gyda chyllid gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro. Chwaraeodd adborth gan gleifion, ymwelwyr a staff rôl ganolog yn yr achos busnes.

Mae Melanie wedi bod yn gyfrifol am dros 50 o arddangosfeydd trawiadol yn Oriel yr Aelwyd, a datblygodd ofod arddangos y Plaza y tu allan i’r oriel hefyd. Yn ddiweddar, cynrychiolodd y BIP a’r oriel yn Rhufain fel cynrychiolydd y Cyngor Prydeinig mewn cyfnewidfa ddiwylliannol rhwng gwledydd y DU a’r Eidal. Eleni, cyrhaeddodd y rownd derfynol yng ngwobrau Chwarae Teg Womenspire am ei gwaith yn Oriel yr Aelwyd.

Dywedodd Melanie, “Dwi wrth fy modd fod Molly yn ymuno â’n tîm, gan ddod ag arbenigedd technegol mewn Celf Gain, dealltwriaeth ddofn o’r celfyddydau creadigol mewn iechyd a lles, a dull gweithredu unigryw a ffres. Rwy’n edrych ‘mlaen i weithio gyda hi fel cydlynydd ac i ddatblygu’r cyfleoedd creadigol amrywiol y mae Oriel yr Aelwyd yn eu cynnig ymhellach.”

“Mae wedi bod yn fraint gallu datblygu Oriel yr Aelwyd yn un o’r ardaloedd arddangos mwyaf unigryw yng Nghymru. Mae’r oriel wedi bod yn hanfodol yn creu cyfleoedd artistig i lawer o bobl o bob cefndir, ac edrychwn ‘mlaen at weld hyn yn parhau. Rydym wedi cael ein cefnogi gan nifer enfawr o artistiaid gwych sydd wedi dangos eu gwaith yn yr oriel er budd ein cleifion, staff ac ymwelwyr. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb ac i edrych ‘mlaen at lawer mwy o arddangosfeydd a phrosiectau creadigol arloesol yr ydym nawr am eu cyflwyno ym mhob un o’n hysbytai a’n lleoliadau cymunedol.

Mae diddordeb a ffydd ym mhwysigrwydd a gwerth y celfyddydau mewn lles, yn arbennig ar lawr gwlad, wedi tyfu’n ddramatig dros y blynyddoedd diwethaf, fel y profwyd drwy gynnwys Oriel yr Aelwyd yng nghynrychiolaeth y Cyngor Prydeinig yng nghyfnewidfa’r DU/Eidal 2020 yn Rhufain, ac rydym yn falch o weld y momentwm yma mewn lleoliadau ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.”

Dywedodd Molly, “Dwi wrth fy modd o fod yr aelod diweddaraf i ymuno â’r tîm Celfyddydau yn BIP Caerdydd a’r Fro fel Cydlynydd newydd Oriel yr Aelwyd yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.

“Ers graddio gyda BA mewn Celf Gain o Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd, dwi wedi arddangos fy ngwaith mewn orielau ledled y DU, gweithio’n llawrydd i lawer o Artistiaid a Dylunwyr yng Nghaerdydd a chael fy nghomisiynu gan BIP Caerdydd a’r Fro i wneud llawer o brosiectau creadigol.

“Dwi nawr yn edrych ‘mlaen at ddefnyddio fy mhrofiad a’m gwybodaeth i greu rhaglen gyffrous ar gyfer Oriel yr Aelwyd. Bydd hyn yn cynnwys arddangos artistiaid sefydledig a newydd a chydweithredu â’r gymuned leol a chydweithfeydd artistig.

“Fy nod yw cynnal llwyddiant artistig yr oriel, sicrhau bod yr arddangosfeydd a’r prosiectau’n rhedeg yn esmwyth a chynnig profiad cadarnhaol a meddylgar i’r ymwelydd.”

Leave a Reply