Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod wedi recriwtio Rheolwr Prosiect Celfyddydau mewn Iechyd a fydd yn gyfrifol am ehangu ein portffolio amrywiol o gelfyddydau creadigol mewn lleoliadau iechyd i’r gymuned yn ehangach.
Diolch i gyllid hael gan Gyngor Celfyddydau Cymru, bydd y swydd hon yn hollbwysig er mwyn cyflawni Strategaeth Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles y Bwrdd Iechyd yn y flwyddyn sydd i ddod drwy archwilio potensial presgripsiynu cymdeithasol y celfyddydau i fynd i’r afael â materion megis ynysiad cymdeithasol ac anghydraddoldebau iechyd.
Gwnaeth nifer o ymgeiswyr cryf dros ben gais a chael eu cyfweld ar gyfer y swydd hon ac mae’n bleser gennym gyhoeddi mai Melanie Wotton oedd yn llwyddiannus a bydd yn dechrau yn y rôl newydd ymhen ychydig wythnosau.
Mae Melanie wedi gweithio yn BIP Caerdydd a’r Fro am nifer o flynyddoedd fel Cydlynydd Arddangosfeydd Oriel yr Aelwyd, Ysbyty Athrofaol Llandochau, ac felly mae ganddi brofiad ymarferol o sut y gall y celfyddydau effeithio ar iechyd a lles pobl mewn lleoliad clinigol ac mae nawr am fanteisio ar ei gwybodaeth a’i defnyddio mewn lleoliadau yn y gymuned.
Meddai Simone Joslyn, Pennaeth y Celfyddydau yn BIP Caerdydd a’r Fro, “Hoffwn longyfarch Melanie o waelod calon a dymuno’r gorau iddi yn y rôl newydd. Hoffwn hefyd ddiolch i bawb a wnaeth gais ac a fynychodd gyfweliad ar gyfer y swydd. Roedd y broses ddewis yn anodd iawn oherwydd cryfder yr ymgeiswyr a bu’r panel a minnau yn trafod yn hir.
“Byddwn yn annog pawb sydd â diddordeb mewn gweithio ym maes celfyddydau mewn iechyd i barhau i gadw llygad ar http://www.cardiffandvale.art oherwydd ein bod yn gobeithio y byddwn mewn sefyllfa yn fuan iawn i recriwtio Cydlynydd Arddangosfeydd newydd yn Oriel yr Aelwyd er mwyn parhau â’r gwaith rhyfeddol y mae Melanie wedi ei arwain dros y pedair blynedd ddiwethaf.”
Meddai Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, “Rydym wrth ein bodd bod BIP Caerdydd a’r Fro yn cynyddu ei waith ym maes Celfyddydau ac Iechyd. Bob diwrnod rydym yn gweld sut mae’r celfyddydau yn gwneud gwahaniaeth i iechyd a lles pobl. Dyna pam ein bod yn gweithio gyda byrddau iechyd ledled y GIG yng Nghymru i gyd-fuddsoddi mewn datblygu gallu yn y maes gwaith pwysig hwn.
“Mae hwn yn benodiad cyffrous a hoffem longyfarch Melanie Wotton a dymuno’n dda iddi yn ei rôl newydd. Mae gan Melanie gymwysterau a phrofiad perthnasol rhagorol fel artist a chydlynydd arddangosfeydd yn Oriel yr Aelwyd, Ysbyty Athrofaol Llandochau, ac mae mewn safle da i ehangu cyfleoedd celfyddydau ar draws y Bwrdd Iechyd ac i leoliadau yn y gymuned. Mae cynlluniau i archwilio rôl y celfyddydau mewn presgripsiynu cymdeithasol ac anghydraddoldebau iechyd yn arbennig o berthnasol a dylent o roi budd i gleifion tra’n lleihau’r pwysau ar feddygon teulu.”